NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydategu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 (“Rheoliad yr UE”), ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi’r Rheoliad hwnnw, yng Nghymru. Maent yn darparu ar gyfer adnabod ceffylau ac yn disodli Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2470) (Cy. 199).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau’n cynnwys darpariaethau sy’n nodi amryw o ofynion gweinyddol a gweithdrefnol. Yn benodol, mae rheoliad 3 yn dynodi Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys ac yn awdurdod sootechnegol at ddibenion Rheoliad yr UE. Mae darpariaethau eraill yn Rhan 2 yn nodi amryw o ofynion mewn perthynas ag adnabod ceffylau a’r ddogfen adnabod mewn perthynas â cheffyl.

Mae Rhan 3 yn nodi amryw o eithriadau mewn perthynas â cheffylau sy’n byw o dan amodau gwyllt neu led-wyllt.

Mae Rhan 4 yn nodi amryw o droseddau ynglŷn â thorri darpariaethau yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad yr UE.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gorfodi a chosbi ac yn rhoi pwerau i arolygwyr a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod gorfodi. Yn benodol, mae rheoliad 35 yn darparu y caiff awdurdodau gorfodi ddewis cymhwyso sancsiynau sifil yn hytrach na chosbau troseddol pan fyddant yn siŵr bod trosedd wedi ei chyflawni. Mae Rhan 6 wedyn yn nodi’r sancsiynau sifil sydd ar gael i’r awdurdodau gorfodi.

Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â dirymu Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.