xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Samplu a Dadansoddi

Caffael samplau

13.  Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir gan y swyddog hwnnw ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae gan y swyddog awdurdod i fynd i mewn iddi ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn; a

(b)cymryd sampl o unrhyw anifail, p’un a yw wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl ai peidio, a ganfyddir gan y swyddog hwnnw ar unrhyw fangre o’r fath neu mewn unrhyw fangre o’r fath.

Dadansoddiad sylfaenol samplau swyddogol

14.—(1Rhaid i sampl swyddogol gael ei chyflwyno i’w dadansoddi mewn labordy a gymeradwywyd a’i thrin yn unol â pharagraff (2) neu (3).

(2Ac eithrio pan fo’r sampl swyddogol o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3), rhaid i ran o’r sampl honno gael ei rhoi drwy ddadansoddiad sylfaenol a rhaid cadw’r gweddill ar gyfer unrhyw ddadansoddiad cyfeirio.

(3Pan fo’r sampl swyddogol yn cynnwys gweddillion safle unrhyw fewnblaniad solet neu bigiad, rhaid i’r dadansoddydd baratoi echdynnyn o safle’r mewnblaniad neu’r pigiad hwnnw a rhoi rhan o’r echdynnyn hwnnw drwy ddadansoddiad sylfaenol a chadw gweddill yr echdynnyn ar gyfer unrhyw ddadansoddiad cyfeirio.

Canlyniadau dadansoddiad sylfaenol

15.—(1Pan fo’r dadansoddiad sylfaenol yn dangos bod sampl swyddogol, neu yn achos sampl o’r fath sy’n cynnwys gweddillion safle mewnblaniad solet neu bigiad, y gweddillion hynny o safle mewnblaniad solet neu bigiad, yn cynnwys—

(a)sylwedd diawdurdod;

(b)sylwedd y mae gan ddadansoddydd amheuaeth resymol mai sylwedd diawdurdod ydyw;

(c)yn achos sampl a gymerwyd o anifail neu lwyth o anifeiliaid, eu hysgarthiad neu eu hylifau corff neu eu meinweoedd, sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad y mae swyddog awdurdodedig yn hysbysu’r dadansoddydd ei fod yn peri ei bod yn rhesymol i’r swyddog amau y gallai cynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid gynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol; neu

(d)yn achos sampl a gymerwyd o unrhyw gynnyrch anifeiliaid, sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol,

rhaid i’r dadansoddydd gofnodi’r wybodaeth honno mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol a darparu copi o’r dystysgrif honno i swyddog awdurdodedig y mae’n rhaid wedyn iddo roi’r copi hwnnw i’r person perthnasol.

(2Pan nad yw’r dadansoddiad sylfaenol yn dangos dim sy’n ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrif dadansoddiad sylfaenol yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid i’r dadansoddydd hysbysu swyddog awdurdodedig am y ffaith honno a rhaid wedyn i’r swyddog awdurdodedig hysbysu’r person perthnasol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 16 a 17, ystyr “person perthnasol” yw perchennog y fangre lle cymerwyd y sampl neu, os person arall yw perchennog yr anifail, y cynnyrch anifeiliaid neu’r eitem neu’r sylwedd arall y cymerwyd y sampl ohonynt, p’un bynnag ohonynt y mae’r swyddog awdurdodedig yn ystyried sy’n briodol.

Dadansoddiad cyfeirio

16.—(1Rhaid i’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif dadansoddiad sylfaenol gael ei gyfeirio gan swyddog awdurdodedig at labordy a gymeradwywyd ar gyfer dadansoddiad cyfeirio ynghyd â gweddill y sampl swyddogol a gadwyd gan y dadansoddydd yn unol â rheoliad 14(2) neu 14(3), fel y bo’n briodol—

(a)os yw’r canfyddiad yn dangos bod y sampl swyddogol, p’un a yw’n echdynnyn o safle unrhyw fewnblaniad solet neu bigiad neu beidio, yn cynnwys sylwedd a bennir o dan y pennawd “Group A” yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/23; neu

(b)os bydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu gwneud hynny beth bynnag.

(2Rhaid i’r dadansoddydd gofnodi canlyniadau’r dadansoddiad cyfeirio mewn tystysgrif dadansoddiad cyfeirio a darparu copi o’r dystysgrif honno i swyddog awdurdodedig y mae’n rhaid wedyn iddo roi copi i’r person perthnasol.

(3Caiff y person perthnasol, ar sail dadansoddiad croes a thrwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i swyddog awdurdodedig, herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol mewn perthynas â sampl swyddogol unrhyw bryd cyn i’r sampl honno, neu ran ohoni, gael ei chyfeirio ar gyfer dadansoddiad cyfeirio.

(4Pan fo’r person perthnasol, yn unol â pharagraff (3), yn herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol, y person hwnnw sy’n atebol i dalu costau unrhyw ddadansoddiad cyfeirio sy’n cadarnhau’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif honno.

Hysbysu dadansoddydd

17.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n cyflwyno sampl i labordy a gymeradwywyd ar gyfer dadansoddiad sylfaenol hysbysu dadansoddydd y labordy a gymeradwywyd hwnnw am enw a chyfeiriad y person perthnasol.

(2Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n cyfeirio canfyddiad a bennwyd mewn dadansoddiad sylfaenol at labordy a gymeradwywyd hysbysu dadansoddydd y labordy a gymeradwywyd hwnnw am enw a chyfeiriad y person perthnasol.

Dulliau dadansoddi

18.  Rhaid i ddadansoddiad ar sampl swyddogol gael ei gyflawni yn unol â’r dulliau a awdurdodir gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/657/EC yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ynglŷn â chyflawni dulliau dadansoddi a dehongli canlyniadau(1).

Tystysgrifau dadansoddiadau

19.—(1Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cael ei llofnodi gan y dadansoddydd; a

(b)pennu enw’r swyddog awdurdodedig a gyflwynodd y sampl i gael ei dadansoddi ac—

(i)os yw’r swyddog hwnnw’n swyddog i awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi y mae’r person hwnnw’n swyddog iddo, neu

(ii)os nad yw’r swyddog hwnnw’n swyddog i awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad y sefydliad y mae’r swyddog hwnnw’n gweithio iddo.

(2Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd un o’r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy’n honni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd o dan baragraff (1); neu

(b)dogfen a roddwyd i’r parti hwnnw gan y parti arall fel copi o dystysgrif o’r fath,

bydd hynny’n dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir ynddi oni bai, mewn achos sy’n syrthio o fewn is-baragraff (a), fod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i’r dadansoddydd gael ei alw fel tyst.

Arolygu anifeiliaid

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu cadw’n gaeth yn y fan lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; neu

(b)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu symud i fan arall, a’u cadw’n gaeth yno,

er mwyn i arolygiad gael ei gynnal.

(2Rhaid i arolygiad o dan baragraff (1) gael ei gynnal er mwyn darganfod—

(a)a oes unrhyw anifail yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod neu weddillion unrhyw sylwedd arall y mae gan y swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail yn cynnwys sylwedd diawdurdod neu sylwedd Tabl 1 yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf; neu

(b)a yw unrhyw gyfnod cadw’n ôl wedi dod i ben.

(3Pan nad yw ond yn ofynnol cadw’n gaeth anifail neu lwyth o anifeiliaid, rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid.

(4Pan fo’n ofynnol symud anifail neu lwyth o anifeiliaid a’u cadw’n gaeth mewn man arall rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid oni bai mai person arall yw perchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, pryd y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodedig gyflwyno’r hysbysiad i ba un bynnag ohonynt y mae’r swyddog yn ystyried sy’n briodol.

Archwilio anifail neu lwyth o anifeiliaid

21.—(1Os yw’n ymddangos i swyddog awdurdodedig, o ganlyniad i arolygiad a gyflawnir at y dibenion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20, y gallai unrhyw anifail neu lwyth o anifeilaidd gynnwys sylwedd diawdurdod neu weddillion sylwedd awdurdodedig y mae gan y swyddog amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf neu nad yw’r cyfnod cadw’n ôl mewn perthynas ag unrhyw anifail wedi dod i ben, mae gan swyddog awdurdodedig y pwerau a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid.

(2Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i ddweud, hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig arall—

(i)na chaniateir cyflawni gweithrediadau masnachol mewn cysylltiad â’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid;

(ii)na chaniateir symud yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid o’r fan lle y maent y pryd hwnnw neu na chaniateir eu symud felly ac eithrio i fan a bennir yn yr hysbysiad; a

(iii)na chaniateir i anifail, heblaw fel y caniateir gan baragraff (ii), gael ei symud oddi ar y fferm wreiddiol ac eithrio fel y pennir yn yr hysbysiad;

(b)rhoi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid drwy unrhyw archwiliadau i ganfod presenoldeb sylweddau neu weddillion y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(c)peintio, stampio, clipio, tagio’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid neu eu marcio fel arall, neu beri iddynt gael eu marcio, i’w hadnabod at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Hysbysiad pan gwblheir archwiliad

22.—(1Pan gwblheir archwiliad a bennir yn rheoliad 21(2)(b), rhaid i swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid yn unol â’r paragraffau a ganlyn yn y rheoliad hwn.

(2Pan fo archwiliad o’r fath yn dangos nad yw anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod na gweddillion unrhyw sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n debyg o olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol neu pan fo swyddog awdurdodedig yn ystyried nad oes angen archwiliad o’r fath, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny a darparu ar gyfer tynnu unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid o dan reoliad 21(2)(a) yn ôl i’r graddau y mae’n ymwneud â’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid.

(3Pan fo’r archwiliad yn dangos bod anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys sylwedd gwaharddedig, sylwedd didrwydded neu sylwedd Tabl 2 rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny, pennu canlyniad yr archwiliad a’i gwneud yn ofynnol i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid gigydda’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, neu beri iddynt gael eu cigydda, o fewn unrhyw gyfnod ac yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn yr hysbysiad.

(4Pan fo’r archwiliad yn dangos bod anifail neu lwyth o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o sylwedd awdurdodedig y mae gan swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu y bydd unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd hwnnw sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny, pennu canlyniad yr archwiliad ac, yn ddarostyngedig i reoliad 12, wahardd cigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl.

(5Caniateir i hysbysiad a roddir yn unol a pharagraff (4) sy’n gwahardd cigydda unrhyw anifail neu lwyth o anifeiliaid gael ei dynnu’n ôl unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig arall a roddir gan swyddog awdurdodedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; a rhaid i hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (4) gael ei dynnu’n ôl fel hyn cyn gynted ag y bydd swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o sylwedd awdurdodedig a allai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys crynodiad o’r sylwedd hwnnw sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol.

(6Os bydd unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3) yn methu cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad ynglŷn â chigydda anifail neu lwyth o anifeiliaid, caiff swyddog awdurdodedig, heb ragfarnu unrhyw achos a fydd yn codi o’r methiant hwnnw, gigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid, neu beri eu cigydda.

(7Caiff yr awdurdod gorfodi godi tâl sy’n hafal i swm y costau a ysgwyddwyd yn rhesymol gan y swyddog awdurdodedig wrth arfer y pwerau a roddir i’r swyddog o dan—

(a)rheoliad 21(2), os yw paragraff (3) neu (4) yn gymwys; neu

(b)paragraff (6).

(8Mae’r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn daladwy gan y person sydd wedi methu ac i’w adennill gan yr awdurdod gorfodi.

(1)

OJ Rhif L221, 17.8.2002, t. 8, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/25/EC (OJ Rhif L6, 10.1.2004, t. 38).