2019 Rhif 569 (Cy. 125)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Coming into force

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd2 ac mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 24 iddi, a chan adrannau 16(1)(a), (b) ac (f) a (3), 17(1) a (2), 26(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19905, a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd6.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddarpariaethau yn offerynnau’r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.