Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2)
Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 20182.
(a)
yn rheoliad 7(1) (gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleol), yn lle “un oʼi swyddogion” rhodder “swyddog”;
(b)
yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(5) (gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau), yn lle “baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i)” rhodder “baragraff (1)(a), (b), (c) ac (h)”;
(c)
yn nhestun Saesneg rheoliad 11 (dyletswydd gonestrwydd)—
(i)
“(d)
in the case of a child who is placed with an area authority, that area authority.”;
(ii)
hepgorer paragraff (e);
(d)
yn rheoliad 26(1) (mynediad i wasanaethau iechyd), yn lle “iechyd a datblygiad” rhodder “iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol”;
(e)
yn rheoliad 29(2)(e) (addasrwydd staff), yn lle “1 Medi 2022” rhodder “1 Ebrill 2022”.
Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1339 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2018”).
Mae rheoliad 2(a) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2018 er mwyn caniatáu i ddarparwr awdurdod lleol benodi swyddog o awdurdod lleol arall i fod yn gyfrifol am reoliʼr gwasanaeth maethu.
Mae rheoliad 2(b) yn gwneud diwygiad i destun Cymraeg rheoliad 10 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Saesneg.
Mae rheoliad 2(c) yn gwneud diwygiad i destun Saesneg rheoliad 11 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Cymraeg.
Mae rheoliad 2(d) yn diwygio rheoliad 26 o Reoliadau 2018 i bennu bod y cyfeiriad yn y rheoliad hwnnw at iechyd a datblygiad yn cael ei newid i iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Mae rheoliad 2(e) yn diwygio rheoliad 29 o Reoliadau 2018 fel mai 1 Ebrill 2022 sy’n cael ei roi fel y dyddiad na chaiff darparwyr awdurdodau lleol gyflogi person i reoliʼr gwasanaeth maethu awdurdod lleol ohono oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.