NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol, mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn (erthygl 3) ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol (erthyglau 5 i 11).

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae’n rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (erthygl 12). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 15). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 16).

Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu (erthyglau 18 i 21). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael (erthygl 22). Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol (erthygl 23).

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys (erthygl 28). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol (erthyglau 29 i 36). Mae darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth yn cael ei gwneud yn erthyglau 39 i 41.

Mae Rhan 6 yn cynnwys dirymiad a darpariaeth drosiannol.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.