39.—(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A neu Gategori B.
(2) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—
(a)rhiant i’r gweithiwr amaethyddol;
(b)mab neu ferch i’r gweithiwr amaethyddol;
(c)priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol; neu
(d)rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel gŵr a gwraig heb fod yn gyfreithiol briod neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil.
(3) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
(a)brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol;
(b)nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol; neu
(c)ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
(4) At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.