xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 467 (Cy. 112)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

5 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006LL+C

2.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006(2) (cyfrifo ffioedd)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “£14.00” rhodder “£14.30”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “£45.00” rhodder “£46.00”;

(c)ym mharagraff (3), yn lle “£195.00” rhodder “£199.10”;

(d)ym mharagraff (4), yn lle “£195.00” rhodder “£199.10”; ac

(e)ym mharagraff (5), yn lle “£14.00” rhodder “£14.30”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

DirymiadauLL+C

3.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2017(3);

(b)Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2018(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2019, gweler rhl. 1

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/491 (Cy. 60)) (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2006/491 (Cy. 60), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/339 (Cy. 83) ac O.S. 2018/297 (Cy. 55); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.