Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei gyhoeddi yn lle’r OS o’r un rhif nad oedd yn adlewyrchu’r fersiwn a lofnodwyd gan un o Weinidogion Cymru oherwydd camgymeriadau wrth rifo paragraffau yn rheoliadau 5 a 6. Mae hefyd yn cywiro’r ffaith fod yr ail bennawd pwnc ar dudalennau 1 a 2 wedi ei hepgor, ac yn mewnosod y cyfieithiadau Cymraeg a hepgorwyd o’r diffiniadau yn rheoliadau 5(2)(b) a 6(4) o’r testun Saesneg. Mae hefyd yn cynnwys troednodiadau ychwanegol yn rheoliad 5. Caiff ei ddyroddi’n rhad ac am ddim felly i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2019 Rhif 456 (Cy. 109)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (mewn perthynas â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.