2019 Rhif 436 (Cy. 104)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.