2019 Rhif 432 (Cy. 101)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2019.

3

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 19922

1

Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 19923 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 3, ar y diwedd mewnosoder—

Class X:

  1. 1

    a dwelling in Wales

    1. a

      which is occupied by one or more care leavers; and

    2. b

      where every resident is either a care leaver, a relevant person, or a severely mentally impaired person.

  2. 2

    For the purposes of paragraph (1)—

    1. a

      “care leaver” means a person who is—

      1. i

        aged 24 or under; and

      2. ii

        a category 3 young person as defined by section 104 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 20144;

    2. b

      “relevant person” has the meaning given by paragraph 2(a) of Class N; and

    3. c

      “severely mentally impaired” has the meaning given in paragraph 2 of Schedule 1 to the Act;

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558) (“Gorchymyn 1992”).

Nid yw’r dreth gyngor yn daladwy mewn perthynas ag anheddau esempt (adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14)). Mae dosbarthau o anheddau esempt wedi eu rhagnodi yng Ngorchymyn 1992.

Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod Dosbarth X newydd yng Ngorchymyn 1992. Mae hyn yn esemptio anheddau yng Nghymru—

  • sydd wedi eu meddiannu gan un neu ragor o bobl sy’n ymadael â gofal, a

  • lle y mae pob preswyliwr naill ai’n berson sy’n ymadael â gofal, neu’n berson perthnasol o fewn y diffiniad yn Nosbarth N o Orchymyn 1992 (myfyrwyr etc.), neu’n berson sydd â nam meddyliol difrifol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diffinio’r term “care leaver” gan gyfeirio at berson ifanc categori 3, fel y’i diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.