Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 432 (Cy. 101)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

4 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992

2.—(1Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3, ar y diwedd mewnosoder—

Class X:
(1)

a dwelling in Wales

(a)

which is occupied by one or more care leavers; and

(b)

where every resident is either a care leaver, a relevant person, or a severely mentally impaired person.

(2)

For the purposes of paragraph (1)—

(a)

“care leaver” means a person who is—

(i)

aged 24 or under; and

(ii)

a category 3 young person as defined by section 104 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014(4);

(b)

“relevant person” has the meaning given by paragraph 2(a) of Class N; and

(c)

“severely mentally impaired” has the meaning given in paragraph 2 of Schedule 1 to the Act;

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558) (“Gorchymyn 1992”).

Nid yw’r dreth gyngor yn daladwy mewn perthynas ag anheddau esempt (adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14)). Mae dosbarthau o anheddau esempt wedi eu rhagnodi yng Ngorchymyn 1992.

Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod Dosbarth X newydd yng Ngorchymyn 1992. Mae hyn yn esemptio anheddau yng Nghymru—

  • sydd wedi eu meddiannu gan un neu ragor o bobl sy’n ymadael â gofal, a

  • lle y mae pob preswyliwr naill ai’n berson sy’n ymadael â gofal, neu’n berson perthnasol o fewn y diffiniad yn Nosbarth N o Orchymyn 1992 (myfyrwyr etc.), neu’n berson sydd â nam meddyliol difrifol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diffinio’r term “care leaver” gan gyfeirio at berson ifanc categori 3, fel y’i diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).