2019 Rhif 371 (Cy. 92)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud a gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.