Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 20164

1

Mae Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 201610 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”, ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff 3)”;

ii

yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, hepgorer “, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw”;

iii

hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn”;

iv

hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE”;

v

yn y diffiniad o “gweithrediad”, ym mharagraff (b), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.

b

ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

3

Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.

3

Yn rheoliad 8(2)(d), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.

4

Yn rheoliad 11—

a

hepgorer paragraff (1)(j)(i);

b

hepgorer paragraff (3).