Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod adran 34ZB newydd yn Rhan II (gwastraff ar dir) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“y Ddeddf”).
Mae adran 34(2A) o’r Ddeddf yn nodi’r ddyletswydd gofal sy’n gymwys i feddianwyr eiddo domestig mewn perthynas â gwastraff cartref a gynhyrchir yn eu heiddo. Mae’r ddyletswydd honno yn ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr eiddo domestig yng Nghymru gymryd yr holl gamau sydd ar gael iddynt ac sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i sicrhau bod y meddiannydd ond yn trosglwyddo ei wastraff cartref i berson a awdurdodir i’w dderbyn.
Mae adran 34(6) o’r Ddeddf yn darparu bod methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 34(2A) yn drosedd.
Mae’r adran 34ZB newydd yn rhoi pŵer i awdurdodau gwastraff yng Nghymru roi hysbysiad sy’n cynnig cyfle i berson ryddhau ei hun rhag unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 34(2A) drwy dalu cosb benodedig.
Wrth ddyroddi hysbysiad, caiff awdurdod yng Nghymru gynnig disgownt am dalu cosb benodedig yn gynnar.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.