2019 Rhif 331 (Cy. 81)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff1 ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno2.
Yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20063, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.