xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 304 (Cy. 77)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A), 36C(2) a (6) a 60 o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ymchwiliad y mae Gweinidogion Cymru yn peri iddynt gael eu cynnal ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 i gais neu gais i amrywio.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd arweiniol ac arolygydd ychwanegol;

ystyr “arolygydd arweiniol” (“lead inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir;

ystyr “arolygydd ychwanegol” (“additional inspector”) yw arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(2)(a);

ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i eistedd gydag arolygydd mewn ymchwiliad neu ymchwiliad a ailagorir i gynghori’r arolygydd ynghylch unrhyw faterion sy’n codi a bennir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod â buddiant” (“interested authority”) yw unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru y mae’r ceisydd wedi cyflwyno hysbysiad am y cais iddo yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;

ystyr “awdurdod cynllunio cymwys” (“qualifying planning authority”) yw—

(a)

pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sydd wedi gwrthwynebu’r cais yn unol â rheoliad 8(2) o’r Rheoliadau hynny ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;

(b)

pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau, unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol, os yw wedi cyflwyno sylwadau (nad ydynt wedi eu tynnu yn ôl) yn gwrthwynebu cais i amrywio;

mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local planning authority” yn Rhan I o Ddeddf 1990;

mae i “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yn achos—

(a)

ymchwiliad i gais, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad;

(b)

ymchwiliad i gais i amrywio, yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;

ystyr “cais” (“application”), ac eithrio pan fo ystyr arall yn ofynnol yn ôl y cyd-destun, yw cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad o dan adran 36(2) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu(3), ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A(4) am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo a wneir gyda’r cais o dan adran 36;

mae i “cais i amrywio” (“variation application”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n gwneud cais neu gais i amrywio;

ystyr “cyfarfod rhagymchwiliad” (“pre-inquiry meeting”) yw cyfarfod a gynhelir cyn ymchwiliad i ystyried beth y gellir ei wneud gyda’r nod o sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn effeithlon ac yn hwylus, a phan gynhelir dau neu ragor o’r cyfarfodydd hynny ynghylch yr un ymchwiliad, mae cyfeiriadau at gyfarfod rhagymchwiliad yn dod i ben yn gyfeiriadau at y cyfarfod rhagymchwiliad terfynol yn dod i ben;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(5);

ystyr “cyfryngwr” (“mediator”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9;

ystyr “cynghorydd technegol” (“technical adviser”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8;

ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae’r ceisydd, wrth wneud cais neu gais i amrywio, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 1990(6) (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth) mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “datganiad achos” (“statement of case”) yw datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—

(a)

manylion llawn yr achos y mae person yn bwriadu ei gyflwyno mewn ymchwiliad;

(b)

rhestr o unrhyw ddogfennau y mae’r person hwnnw yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

(c)

rhestr o’r unigolion y mae’r person hwnnw yn bwriadu eu galw fel tystion; a

(d)

pwnc tystiolaeth pob un o’r tystion hynny;

ystyr “datganiad amlinellol” (“outline statement”) yw datganiad ysgrifenedig o’r prif sylwadau y mae person yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymchwiliad;

ystyr “datganiad tir cyffredin” (“statement of common ground”) yw datganiad ysgrifenedig a lunnir ar y cyd gan yr awdurdod cynllunio perthnasol (pan fo’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru) a’r ceisydd, sy’n cynnwys gwybodaeth ffeithiol gytunedig am y cynnig sy’n destun y cais neu’r cais i amrywio;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(7);

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) mewn perthynas â hysbysiad, yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn un papur newydd o leiaf, fel bod yr hysbysiad yn debygol o ddod i sylw’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cydsyniad y gwneir cais amdano os y’i rhoddir;

ystyr “ffurflen gofrestru” (“registration form”) yw ffurflen i’w chwblhau gan bersonau sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad;

ystyr “gwrthwynebydd cymwys” (“qualifying objector”) yw—

(a)

pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 9(1) neu 10 o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad, unrhyw un a wrthwynebodd y cais erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8(1) o’r Rheoliadau hynny ac yn y dull y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwnnw;

(b)

pan fo Gweinidogion Cymru wedi peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniad, unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais i amrywio erbyn y dyddiad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 5(6)(b)(iii) o’r Rheoliadau hynny,

ac nad yw ei wrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl;

ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru o dan reoliad 4(1);

ystyr “lle” (“place”), oni bai bod ystyr arall yn ofynnol yn unol â’r cyd-destun, yw’r lle y mae ymchwiliad yn ymwneud ag ef, hynny yw, y lle—

(a)

y bwriedir adeiladu’r orsaf gynhyrchu, y lle y bydd yr estyniad arfaethedig neu’r lle y mae’r orsaf y bwriedir ei gweithredu wedi ei lleoli; a

(b)

y bydd unrhyw ddatblygiad adran 90 wedi ei leoli.

ystyr “person sydd â hawl i ymddangos” (“person entitled to appear”) yw person a ddisgrifir yn rheoliad 17(1), ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “y Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau” (“the Variation of Consents Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019(8);

ystyr “y Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad” (“the Applications for Consent Regulations”) yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019(9);

ystyr “ymchwiliad” (“inquiry”) yw ymchwiliad y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ef; a phan fo ymchwiliad yn cael ei gynnal drwy sesiynau cydredol, mae’n cynnwys unrhyw sesiwn o’r fath.

(2Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf Trydan 1989.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i gylchredeg dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi o’r ddogfen honno—

(a)i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)at y ceisydd; ac

(c)at bob gwrthwynebydd cymwys sydd wedi nodi yn unol â rheoliad 6(4)(b)(iv) ei fod yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru neu’r arolygydd i adneuo dogfen wedi ei fodloni drwy anfon copi ohoni—

(a)yn achos ymchwiliad i gais—

(i)pan fo rhan o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod cynllunio perthnasol; neu

(ii)pan na fo unrhyw ran o’r man y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, i’r awdurdod â buddiant; a

(b)yn achos ymchwiliad i gais i amrywio, i unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol sy’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

(5Nid oes dim ym mharagraff (3) neu (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd anfon copi o ddogfen at y person y cafwyd y ddogfen oddi wrtho.

(6Mae gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi hysbysiad ar wefan wedi ei fodloni—

(a)drwy gyhoeddi’r hysbysiad, neu’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw, ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru; neu

(b)drwy gyhoeddi dolen ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru i wefan arall lle y mae’r hysbysiad wedi ei gyhoeddi neu lle y mae’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad hwnnw wedi eu cyhoeddi.

Cyfathrebiadau electronig

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath, ac eithrio pan fo unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, nid yw’r gofyniad wedi ei fodloni oni bai bod y person sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn darparu cyfeiriad post;

(b)mae cyfeiriadau at ddatganiadau, hysbysiadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o’r dogfennau hynny, yn cynnwys cyfeiriadau at y dogfennau hynny, neu gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(2Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o ofynion y Rheoliadau hyn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).

(3Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd ei gyrchu neu ei chyrchu;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(5Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac at y diben hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(10).

(6Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3).

(7Caniateir cydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall drwy drosglwyddo un copi yn unig o’r datganiad, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall dan sylw.

Hysbysiad gan Weinidogion Cymru

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol yn ysgrifenedig at y ceisydd a’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)hysbysiad bod ymchwiliad i’w gynnal;

(b)hysbysiad y bydd cyfarfod rhagymchwiliad neu hysbysiad eu bod wedi penderfynu peidio â chynnal cyfarfod o’r fath yn unol â rheoliad 10(2); ac

(c)datganiad ynghylch y materion sydd, yn eu barn hwy, yn faterion i’w hystyried yn yr ymchwiliad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg addasu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) ac os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt anfon y datganiad addasedig at y ceisydd, a rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad o’r addasiad a wneir.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi addasu’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) o dan baragraff (2), rhaid iddynt gyhoeddi hysbysiad ar wefan am yr addasiad a wneir.

Gwybodaeth ragarweiniol sydd i’w darparu

5.  Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi hysbysiad perthnasol, hysbysu’r ceisydd ac unrhyw awdurdod cynllunio cymwys yn ysgrifenedig am enw a chyfeiriad unrhyw wrthwynebydd cymwys.

Cofrestru

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dyroddi hysbysiad perthnasol, anfon at bob person sydd â hawl i ymddangos neu bob person y gwyddant bod ganddynt fuddiant yn y cynnig, gopi o’r datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c) a ffurflen gofrestru yn y ffurf y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (4).

(2Ar ôl cael yr hysbysiad perthnasol, rhaid i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad yn datgan—

(a)bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ymchwiliad;

(b)y materion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a anfonir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(1)(c);

(c)y trefniadau ar gyfer y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf, os oes un; a

(d)bod rhaid i bersonau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gael ffurflen gofrestru oddi wrth Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraff (2), gyhoeddi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar wefan.

(4Rhaid i’r ffurflen gofrestru—

(a)cynnwys y cyfeiriad y mae rhaid dychwelyd ffurflenni wedi eu llenwi iddo a’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud hynny, na chaiff fod yn ddim hwyrach nag wyth wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad perthnasol;

(b)gofyn am yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sy’n cofrestru;

(ii)enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw asiant, neu, yn achos sefydliad, y person cyswllt;

(iii)pa un a oes gan y person sy’n cofrestru fuddiant ai peidio yn unrhyw dir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef a gaiff ei effeithio gan y cynnig;

(iv)pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn debygol o fod eisiau cael ei gynrychioli yn ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad ai peidio;

(v)os na fydd yn debygol o fod eisiau hynny, pa un a yw’r person sy’n cofrestru yn dymuno rhoi tystiolaeth lafar yn yr ymchwiliad ai peidio, neu ond yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)gofyn bod dau gopi o ddatganiad amlinellol gan y person sy’n cofrestru yn mynd gyda’r ffurflen gofrestru wedi ei llenwi.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid dychwelyd y ffurflen gofrestru o dan baragraff (4)(a), gylchredeg pob datganiad amlinellol a geir ganddynt fel y crybwyllir ym mharagraff (4)(c).

Arolygwyr ychwanegol

7.—(1Ar unrhyw adeg ar ôl penodi’r arolygydd arweiniol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r arolygydd arweiniol i—

(a)ystyried unrhyw faterion sy’n ymwneud â chynnal yr ymchwiliad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch y materion hynny.

(2Ar ôl ystyried argymhellion yr arolygydd arweiniol, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)penodi at ddibenion yr ymchwiliad y nifer hwnnw o arolygwyr ychwanegol y maent yn meddwl sy’n briodol; a

(b)cyfarwyddo bod rhaid i bob arolygydd ychwanegol ystyried unrhyw faterion y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy a ddyrennir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw gan yr arolygydd arweiniol.

(3Rhaid i arolygydd ychwanegol—

(a)cydymffurfio â phob cyfarwyddyd o ran materion gweithdrefnol a roddir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw gan yr arolygydd arweiniol; a

(b)cyflwyno adroddiad i’r arolygydd arweiniol ar bob mater a ddyrennir i’r arolygydd ychwanegol hwnnw.

(4Rhaid i’r arolygydd arweiniol gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar yr ystyriaeth a roddwyd i—

(a)y materion y mae’r arolygydd arweiniol wedi eu hystyried; a

(b)y materion a ddyrannwyd i’r arolygwyr ychwanegol i’w hystyried.

(5Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r arolygydd arweiniol ar un achlysur neu ragor ar ôl penodi’r arolygydd arweiniol.

(6Mae’r argymhellion y caiff yr arolygydd arweiniol eu gwneud yn dilyn rhoi cyfarwyddyd yn cynnwys, yn enwedig, argymhelliad i amrywio nifer yr arolygwyr ychwanegol.

(7Mae pŵer Gweinidogion Cymru i benodi arolygydd ychwanegol yn cynnwys pŵer i ddirymu penodiad.

(8Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn drwy gyfarwyddyd dilynol.

Penodi cynghorydd technegol

8.—(1Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod tystiolaeth sydd i’w chyflwyno i’r ymchwiliad yn dystiolaeth o’r fath natur dechnegol neu wyddonol y byddai’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn fwy effeithlon ac yn fwy hwylus pe bai asesiad arbenigol ac annibynnol o’r dystiolaeth honno yn cael ei gynnal, neu’n debygol o fod yn dystiolaeth o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg benodi cynghorydd technegol at y diben hwnnw.

(2Cynghorydd technegol yw person y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod ganddo’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw i alluogi’r cynghorydd technegol i gynnal asesiad arbenigol o’r dystiolaeth wyddonol neu dechnegol sydd i’w chyflwyno i’r ymchwiliad.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi cynghorydd technegol, cânt ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol ac o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddynt, hysbysiad sy’n datgan enw’r person a benodir felly ac yn pennu’r dystiolaeth sydd i’w hasesu.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â’r paragraff hwnnw rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar wefan.

(5Rhaid i’r cynghorydd technegol, drwy ymgynghori naill ai ar y cyd neu’n unigol â’r personau sydd â hawl i ymddangos, asesu’r dystiolaeth a bennir felly, a rhaid iddo gyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar yr asesiad hwnnw i’r arolygydd.

(6Rhaid i adroddiad y cynghorydd technegol gynnwys disgrifiad o unrhyw feysydd lle ceir anghytundeb rhwng y partïon a rhaid iddo ddatgan barn y cynghorydd technegol ynghylch pa mor arwyddocaol yw pob anghytundeb o’r fath.

(7Rhaid i’r arolygydd gylchredeg adroddiad y cynghorydd technegol o fewn saith niwrnod o’i gael.

(8Rhaid i’r cynghorydd technegol roi tystiolaeth ynghylch ei adroddiad yn yr ymchwiliad, ac mae’n ddarostyngedig i gael ei groesholi i’r un graddau ag unrhyw dyst arall.

(9Caiff yr arolygydd ganiatáu i’r cynghorydd technegol newid ei adroddiad, neu ychwanegu ato, i’r graddau a all fod yn angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad; ond rhaid i’r arolygydd (drwy ohirio’r ymchwiliad os oes angen) roi cyfle digonol i bob person arall sydd â hawl i ymddangos gerbron yr ymchwiliad sy’n ymddangos, ystyried unrhyw newid neu ychwanegiad o’r fath.

Cyfryngu

9.—(1Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)bod diffyg cytundeb rhwng personau sydd â hawl i ymddangos ynghylch mater sy’n berthnasol i’r ymchwiliad;

(b)y byddai’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn fwy effeithlon ac yn fwy hwylus pe baent yn gallu dod i gytundeb mewn perthynas â’r mater hwnnw, neu y gellid diffinio a chyfyngu unrhyw anghytundeb mewn perthynas ag ef; ac

(c)y gellir cyflawni’r canlyniad hwnnw drwy gyfryngu,

yna cânt ar unrhyw adeg benodi cyfryngwr at y diben hwnnw.

(2Rhaid i gyfryngwr fod yn berson yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod wedi ei hyfforddi mewn technegau cyfryngu gan sefydliad cyfryngu annibynnol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi cyfryngwr, cânt ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol ac o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddynt hysbysiad sy’n datgan enw’r person a benodir felly, a’r mater y mae’r person hwnnw i gyfryngu mewn perthynas ag ef.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â’r paragraff hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar wefan.

(5Rhaid i’r cyfryngwr bennu’r weithdrefn gyfryngu.

(6O fewn saith niwrnod ar ôl i’r cyfryngu ddod i ben, rhaid i’r cyfryngwr gyflwyno adroddiad i’r arolygydd yn disgrifio’r weithdrefn gyfryngu a chanlyniad y weithdrefn honno, a rhaid i’r arolygydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gael, anfon yr adroddiad at y personau sydd â hawl i ymddangos.

(7Rhaid i’r arolygydd ganiatáu i unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos annerch yr arolygydd ynghylch yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), ond nid yw’r cyfryngwr i roi tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad.

Gweithdrefn y cyfarfod rhagymchwiliad a chyfarfodydd eraill

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru gynnal un cyfarfod rhagymchwiliad neu ragor.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried na fyddai cynnal cyfarfod rhagymchwiliad yn golygu bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn fwy effeithlon ac yn fwy hwylus, ac os felly, nid yw paragraffau (3) i (9) yn gymwys.

(3Rhaid cynnal y cyfarfod rhagymchwiliad (neu pan gynhelir mwy nag un, y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf) o fewn deuddeg wythnos i ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi nid llai na thair wythnos o hysbysiad ysgrifenedig ynghylch y cyfarfod rhagymchwiliad (neu, pan gynhelir mwy nag un, y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf) i—

(a)unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos; a

(b)unrhyw berson arall yr ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai’n ddymunol iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod rhagymchwiliad.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i’r ceisydd gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn—

(a)nid llai na dwy wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y cyfarfod rhagymchwiliad cyntaf, gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad am y cyfarfod rhagymchwiliad;

(b)anfon hysbysiad am y cyfarfod rhagymchwiliad hwnnw at unrhyw bersonau, neu ddosbarthau o bersonau a bennir gan Weinidogion Cymru ac o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddynt;

(c)gosod hysbysiad am y cyfarfod rhagymchwiliad hwnnw yn y lleoliadau hynny lle y mae’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r cydsyniad y gwneir cais amdano yn debygol o effeithio arnynt os y’i roddir, ac o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddynt.

(6Rhaid i hysbysiad am y cyfarfod rhagymchwiliad a gyhoeddir, a anfonir neu a osodir yn unol â pharagraff (5) ddatgan—

(a)y ffaith bod y cais, neu’r cais i amrywio, wedi ei wneud a diben y cais hwnnw, ynghyd â disgrifiad o’r man y mae’n ymwneud ag ef;

(b)pan fo’r ymchwiliad yn ymwneud â chais, y gellir edrych ar gopi o’r cais a’r map y cyfeirir ato ynddo yn yr un lleoliad neu leoliadau ag a ddefnyddir i arddangos y map yn unol â rheoliad 7(2) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad neu, os nad yw hynny’n bosibl mewn perthynas ag unrhyw leoliad o’r fath, mewn lleoliad addas arall sydd mor agos at y man hwnnw â phosibl;

(c)pan fo’r ymchwiliad yn ymwneud â chais i amrywio, man yn yr ardal leol lle y mae’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig yn byw neu’n gweithio ynddo lle y gellir edrych ar gopi o’r cais i amrywio a’r map y cyfeirir ato ynddo; a

(d)lleoliad, dyddiad ac amser y cyfarfod rhagymchwiliad.

(7Mewn perthynas â’r arolygydd—

(a)rhaid iddo lywyddu ym mhob cyfarfod rhagymchwiliad;

(b)rhaid iddo bennu’r materion sydd i’w trafod a’r weithdrefn sydd i’w dilyn;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n bresennol yn y cyfarfod rhagymchwiliad sydd, ym marn yr arolygydd, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a

(d)caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fynychu unrhyw gyfarfod rhagymchwiliad pellach, neu caiff ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol o dan unrhyw amodau a bennir gan yr arolygydd.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth oddi wrth y ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio cymwys, unrhyw wrthwynebydd cymwys neu unrhyw berson arall yn y cyfarfod rhagymchwiliad, rhaid i’r person hwnnw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael dau gopi o’r wybodaeth (yn achos y ceisydd neu unrhyw awdurdod cynllunio cymwys) neu dri chopi o’r wybodaeth (yn achos unrhyw berson arall) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.

(9Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei chael, gylchredeg yr holl wybodaeth a geir ganddynt o dan baragraff (8).

(10Caiff yr arolygydd ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad, gynnal unrhyw gyfarfodydd eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(11Rhaid i’r arolygydd drefnu i hysbysiad gael ei roi am y cyfarfodydd hynny a gynhelir yn unol â pharagraff (10) fel y mae’r arolygydd yn ystyried yn angenrheidiol.

(12Mae paragraff (7) yn gymwys i unrhyw gyfarfodydd a gynhelir yn unol â pharagraff (10).

Cyhoeddusrwydd i nodiadau’r arolygydd ynghylch cyfarfodydd rhagymchwiliad ac argymhellion yr arolygydd

11.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob cyfarfod rhagymchwiliad ddod i ben, rhaid i’r arolygydd lunio nodyn am y trafodion yn y cyfarfod hwnnw, ac anfon copi o’r nodyn hwnnw at Weinidogion Cymru.

(2Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl anfon copi o’r nodyn at Weinidogion Cymru, rhaid i’r arolygydd ei gylchredeg.

(3Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch y materion y cyfarwyddir yr arolygydd i’w hystyried o dan reoliad 7(1)(a), rhaid i’r arolygydd gylchredeg copi o’r argymhellion hynny.

Cael y datganiadau achos etc.

12.—(1Rhaid i’r ymgeisydd—

(a)sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael dau gopi o ddatganiad achos y ceisydd o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3); a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl anfon y datganiad achos at Weinidogion Cymru, anfon copi ohono at bob person arall y mae’r ceisydd yn gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos.

(2Rhaid i’r personau y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddynt—

(a)sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael dau gopi o’u datganiadau achos o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) ; a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl anfon y datganiad achos at Weinidogion Cymru, anfon copi ohono at bob person arall maent yn gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos.

(3Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn pennu cyfnod arall drwy hysbysiad ysgrifenedig, y cyfnodau y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael datganiadau achos o’u mewn yw—

(a)yn achos ceisydd—

(i)pan gynhelir cyfarfod rhagymchwiliad, bedair wythnos ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben;

(ii)fel arall, ddeuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol;

(b)yn achos unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(i)pan gynhelir cyfarfod rhagymchwiliad, chwe wythnos ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben;

(ii)fel arall bedair wythnos ar ddeg o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.

(4Y personau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt yw—

(a)unrhyw awdurdod cynllunio cymwys;

(b)unrhyw wrthwynebydd cymwys a nododd yn unol â rheoliad 6(4)(b)(iv) ei fod yn debygol o eisiau cael ei gynrychioli’n ffurfiol a chwarae rhan sylweddol yn yr ymchwiliad; ac

(c)unrhyw berson arall y mae’n ofynnol iddo anfon datganiad achos yn unol â pharagraff (5).

(5Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i unrhyw berson arall sydd wedi eu hysbysu ei fod yn bwriadu ymddangos gerbron yr ymchwiliad neu ei fod yn dymuno gwneud hynny, anfon dau gopi o’i ddatganiad achos at Weinidogion Cymru, ac mewn achosion o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon at y person hwnnw ddatganiad o’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(1)(c); a

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r person hwnnw am enw a chyfeiriad pob person y mae’n ofynnol anfon datganiad achos y person hwnnw atynt.

(6Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio perthnasol sy’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru anfon datganiad achos o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r datganiad achos hwnnw gynnwys manylion yr amser a’r lleoliad lle y bydd y cyfle i edrych ar gopïau a chymryd y copïau a ddisgrifir ym mharagraff (13) ar gael.

(7Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(a) neu (b) nodi yn ei ddatganiad achos bob rhan o ddatganiad achos y ceisydd y maent yn cytuno â hi a phob rhan nad ydynt yn cytuno â hi, a rhaid iddynt ddatgan y rhesymau dros bob achos o anghytuno.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru adneuo pob datganiad achos a chopïau o unrhyw ddogfennau neu rannau perthnasol o unrhyw ddogfennau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael.

(9Caiff y ceisydd ac unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(a) neu (b) ofyn yn ysgrifenedig i unrhyw berson arall y mae’n ofynnol iddo ddarparu datganiad achos am gopi o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr o ddogfennau sydd wedi ei chynnwys yn natganiad achos y person hwnnw; a rhaid anfon unrhyw ddogfen o’r fath, neu unrhyw ran berthnasol o’r fath, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, at y person a ofynnodd amdani.

(10Caiff Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i unrhyw berson sydd wedi anfon datganiad achos yn unol â’r rheoliad hwn ddarparu—

(a)nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r datganiad; neu

(b)unrhyw wybodaeth bellach am y materion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a bennir ganddynt,

a rhaid iddynt bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael y copïau neu’r wybodaeth.

(11Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ddarparu copïau ychwanegol neu wybodaeth bellach—

(a)sicrhau bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd wedi cael y copïau ychwanegol o fewn y cyfnod penodedig;

(b)sicrhau bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd wedi cael dau gopi o’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod penodedig; a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei chael, adneuo’r wybodaeth bellach honno; ac

(c)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl anfon yr wybodaeth bellach at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd, anfon copi ohoni at bob person arall y mae’r person sy’n darparu’r wybodaeth yn gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos.

(12Rhaid i unrhyw berson sy’n anfon datganiad achos at Weinidogion Cymru anfon copi o’r canlynol gyda’r datganiad hwnnw—

(a)unrhyw ddogfen; neu

(b)y rhan berthnasol o unrhyw ddogfen,

y cyfeirir ati yn y rhestr sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad achos hwnnw, oni bai bod copi o’r ddogfen neu’r rhan o’r ddogfen dan sylw eisoes ar gael i edrych arni yn unol â pharagraff (13).

(13Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru, rhaid iddo roi i unrhyw berson sy’n gofyn am hynny gyfle rhesymol i edrych ar gopïau a, lle y bo’n ymarferol, gymryd copïau o—

(a)unrhyw ddatganiad achos, sylwadau ysgrifenedig, wybodaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall yr adneuwyd copi ohono, ohonynt neu ohoni yn unol â’r rheoliad hwn; a

(b)datganiad achos, os oes un, yr awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig, wybodaeth ysgrifenedig neu ddogfennau eraill a anfonir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol yn unol â’r rheoliad hwn,

yn ddarostyngedig i dalu tâl rhesymol gan y person hwnnw.

(14Pan na fo unrhyw ran o’r man y mae cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “Pan fo’n ofynnol i awdurdod â buddiant” wedi ei roi yn lle “Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol sy’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru”;

(b)mae paragraff (13) yn gymwys fel pe bai “Rhaid i’r awdurdod â buddiant” wedi ei roi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru, rhaid iddo”.

(15Os yw unrhyw berson sy’n anfon datganiad achos o dan y rheoliad hwn yn dymuno gwneud sylw am ddatganiad achos person arall, rhaid iddo—

(a)sicrhau o fewn pedair wythnos o gael y datganiad hwnnw bod Gweinidogion Cymru yn cael dau gopi o’i sylwadau ysgrifenedig; a rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, adneuo’r sylwadau hynny; a

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl anfon ei sylwadau at Weinidogion Cymru, anfon copi ohonynt at bob person arall y mae’n gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos.

(16Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gael neu ei chael, anfon at yr arolygydd unrhyw ddatganiad achos, ddogfen, wybodaeth bellach neu sylwadau ysgrifenedig a gafwyd ganddynt yn unol â’r rheoliad hwn.

Amserlen yr ymchwiliad

13.—(1Rhaid i’r arolygydd, mewn cyfarfod rhagymchwiliad a gynhelir yn unol â rheoliad 10

(a)trefnu amserlen ar gyfer y trafodion mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad; a

(b)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonir yn unol â rheoliad 18, ac unrhyw ddatganiad tir cyffredin a anfonir yn unol â rheoliad 19,

a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad a bennir felly i bob person sydd â hawl i ymddangos.

(2Rhaid i’r arolygydd, nid hwyrach na phedair wythnos cyn dechrau’r ymchwiliad, anfon copi o’r amserlen at bob person sydd â hawl i ymddangos.

(3Pan na fo cyfarfod rhagymchwiliad yn cael ei gynnal—

(a)caiff yr arolygydd drefnu amserlen ar gyfer y trafodion mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad; a

(b)rhaid i’r arolygydd bennu’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonir yn unol â rheoliad 18, ac unrhyw ddatganiad tir cyffredin a anfonir yn unol â rheoliad 19,

a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am yr amserlen, os oes un, a’r dyddiad a bennir felly, i bob person sydd â hawl i ymddangos o fewn deg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.

(4Caiff yr arolygydd ar unrhyw adeg amrywio’r amserlen a drefnir o dan y rheoliad hwn, a rhaid hysbysu pob person sydd â hawl i ymddangos am unrhyw newidiadau i’r amserlen.

Hysbysu am benodi asesydd

14.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd, rhaid iddynt hysbysu yn ysgrifenedig bob person sydd â hawl i ymddangos am—

(a)enw’r asesydd; a

(b)y materion y mae’r asesydd i gynghori’r arolygydd yn eu cylch.

Dyddiad ymchwiliad a hysbysu am ymchwiliad

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal ymchwiliad fod yn ddiweddarach na—

(a)deg wythnos ar ôl i’r cyfarfod rhagymchwiliad ddod i ben, os cynhelir un;

(b)fel arall, ddeunaw wythnos o ddyddiad yr hysbysiad perthnasol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’n ymarferol pennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf y maent yn ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gyfnod hysbysu byrrach gyda’r ceisydd ac unrhyw awdurdod cynllunio cymwys, rhaid iddynt roi dim llai na phedair wythnos o hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad i bob person sydd â hawl i ymddangos.

(4Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a yw’r dyddiad a amrywir o fewn y cyfnod sy’n gymwys o dan baragraff (1) ai peidio.

(5Mae paragraff (3) yn gymwys i ddyddiad a amrywir fel yr oedd yn gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(6Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad am unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.

(7Cymerir bod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (3) pan fônt hwy ac unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos wedi cytuno y caiff y person hwnnw yn hytrach gyrchu hysbysiad am y materion a grybwyllir yn y paragraff hwnnw drwy wefan, a—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar y wefan; a

(b)nid llai na phedair wythnos cyn y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, yr hysbysir y person am—

(i)cyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan;

(ii)cyfeiriad y wefan; a

(iii)ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r hysbysiad, a sut y gellir ei gyrchu.

Hysbysiad am ymchwiliad

16.—(1Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn dwy wythnos olynol sy’n datgan—

(a)y ffaith bod y cais neu’r cais i amrywio wedi ei wneud, a’i ddiben, ynghyd â disgrifiad o’r man y mae’n ymwneud ag ef;

(b)pan fo’r ymchwiliad yn ymwneud â chais, y gellir edrych ar gopi o’r cais a’r map y cyfeirir ato ynddo, yn yr un lleoliad neu leoliadau ag a ddefnyddir i arddangos y map yn unol â rheoliad 7(2) o’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad neu, os nad yw hynny’n bosibl mewn perthynas ag unrhyw leoliad o’r fath, mewn lleoliad addas arall mor agos ato â phosibl;

(c)pan fo’r ymchwiliad yn ymwneud â chais i amrywio, man yn yr ardal leol lle y mae’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig yn byw neu’n gweithio lle y gellir edrych ar gopi o’r cais i amrywio a’r map y cyfeirir ato ynddo; a

(d)lleoliad, dyddiad ac amser yr ymchwiliad.

(2Rhaid cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (1) mewn un papur newydd lleol o leiaf, fel bod yr hysbysiad yn debygol o ddod i sylw’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig.

(3Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru y dylid, yn ogystal â chyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraffau (1) a (2), roi hysbysiad pellach am yr ymchwiliad (naill ai drwy gyflwyno hysbysiadau, neu drwy hysbyseb, neu mewn unrhyw ffordd arall) er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) wedi ei hysbysu yn ddigonol i bersonau sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cydsyniad y gwneir cais ar ei gyfer os y’i rhoddir, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r ceisydd i gymryd unrhyw gamau pellach a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd.

Ymddangos gerbron ymchwiliad

17.—(1Y personau sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad yw—

(a)y ceisydd;

(b)awdurdod cynllunio cymwys;

(c)unrhyw un neu ragor o’r cyrff a ganlyn os yw tir y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wedi ei leoli yn ei ardal neu ei hardal ac nid hwythau yw’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(i)bwrdd cydgynllunio a gyfansoddir o dan adran 2(1B) o Ddeddf 1990(11) (byrddau cydgynllunio);

(ii)corfforaeth datblygu trefol a sefydlir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn o dan adran 135(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(12) (corfforaethau datblygu trefol);

(d)gwrthwynebydd cymwys sydd wedi dychwelyd ffurflen gofrestru yn unol â rheoliad 6(4)(a);

(e)unrhyw berson arall sydd wedi anfon datganiad achos yn unol â rheoliad 12(2).

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal yr arolygydd rhag caniatáu i unrhyw berson arall ymddangos gerbron ymchwiliad, ac ni chaniateir atal caniatâd o’r fath yn afresymol.

(3Caiff unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos gerbron ymchwiliad neu y caniateir iddo ymddangos wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

(4Caiff arolygydd ganiatáu i un person neu ragor ymddangos er budd rhai o’r personau, neu’r holl bersonau, sydd â buddiant tebyg yn y mater sy’n destun ymchwiliad.

Proflenni tystiolaeth

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos sy’n bwriadu rhoi tystiolaeth, neu alw person arall i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth anfon dau gopi o’r broflen dystiolaeth (yn achos awdurdod cynllunio cymwys â’r ceisydd) neu dri chopi (yn unrhyw achos arall) at Weinidogion Cymru.

(2Pan fo copi o broflen dystiolaeth a anfonir o dan baragraff (1) yn cynnwys mwy na 1,500 o eiriau, rhaid i grynodeb ysgrifenedig fynd gydag ef, ac ni chaiff y crynodeb hwnnw gynnwys mwy na 1,500 o eiriau, oni bai bod yr arolygydd yn caniatáu fel arall.

(3Pan fo person yn anfon copïau o broflen dystiolaeth a chrynodeb (os oes un), rhaid i’r person hwnnw ar yr un pryd anfon copi at bob person arall y mae’r person hwnnw yn gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos, oni bai bod person o’r fath wedi nodi yn ysgrifenedig nad oes angen anfon copi ato.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gael y broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb nid hwyrach na’r dyddiad a bennir gan yr arolygydd yn unol â rheoliad 13(1)(b) neu reoliad 13(4)(b), a chyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, rhaid i Weinidogion Cymru adneuo pob proflen dystiolaeth o’r fath a phob crynodeb o’r fath.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at yr arolygydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd ag unrhyw grynodeb a anfonir atynt yn unol â’r rheoliad hwn.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo anfon copïau o broflen dystiolaeth at Weinidogion Cymru anfon yr un nifer o gopïau o unrhyw ddogfen gyfan y cyfeirir ati yn y broflen dystiolaeth, neu’r rhan berthnasol o unrhyw ddogfen o’r fath, gyda’r proflenni tystiolaeth hynny, oni bai bod copi o’r ddogfen neu ran o’r ddogfen dan sylw eisoes ar gael i edrych arno yn unol â rheoliad 12(13).

(7Caiff Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i unrhyw berson sydd wedi anfon copi o broflen dystiolaeth neu grynodeb yn unol â’r rheoliad hwn ddarparu’r nifer hwnnw o gopïau ychwanegol o’r broflen neu’r crynodeb a bennir ganddynt, a rhaid iddynt bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael y copi o’r broflen neu’r crynodeb.

(8Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ddarparu copïau ychwanegol sicrhau bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd yn cael y copïau hynny o fewn y cyfnod penodedig.

Datganiad tir cyffredin

19.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio perthnasol (pan fo’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru) a’r ceisydd lunio datganiad tir cyffredin gyda’i gilydd.

(2Pan fo datganiad tir cyffredin cytunedig yn cael ei lunio yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r ceisydd—

(a)sicrhau bod Gweinidogion Cymru wedi cael dau gopi o’r datganiad erbyn y dyddiad a bennir gan yr arolygydd o dan reoliad 13(1)(b) neu 13(4)(b); a rhaid i Weinidogion Cymru adneuo’r datganiad hwnnw cyn gynted â phosibl ar ôl ei gael;

(b)ar yr un pryd ag y mae’r ceisydd yn anfon y datganiad at Weinidogion Cymru, anfon copi ohono at bob person arall y mae’n gwybod bod ganddynt hawl i ymddangos, ac eithrio’r awdurdod cynllunio perthnasol (pan fo’n awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru); ac

(c)rhoi cyfle rhesymol i unrhyw berson arall sy’n gofyn am edrych ar y datganiad i wneud hynny, a phan fo’n ymarferol ac ar ôl talu tâl rhesymol, i gymryd copïau ohono.

Gweithdrefn ymchwiliad

20.—(1Ac eithrio fel y darperir fel arall, rhaid i’r arolygydd bennu gweithdrefn ymchwiliad.

(2Ar ddechrau’r ymchwiliad—

(a)rhaid i’r arolygydd nodi—

(i)y materion sydd i’w hystyried yn yr ymchwiliad; a

(ii)unrhyw faterion y mae’r arolygydd angen esboniad pellach yn eu cylch oddi wrth y personau sydd â hawl i ymddangos neu a ganiateir i ymddangos;

(b)caiff yr arolygydd gyfarwyddo, mewn perthynas â’r materion hynny a bennir gan yr arolygydd, bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys, neu’r ddau ohonynt—

(i)nid yw tystiolaeth i gael ei darllen yn uchel yn yr ymchwiliad (neu pan anfonir crynodeb o’r dystiolaeth yn unol â rheoliad 18(4), mai dim ond y crynodeb sydd i’w darllen yn uchel); a

(ii)nid yw personau sy’n rhoi tystiolaeth yn ddarostyngedig i gael eu croesholi ynghylch y materion hynny.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) yn atal unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos neu a ganiateir i ymddangos rhag—

(a)cyfeirio at faterion y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol o ran ystyried y cais neu’r cais i amrywio ond nad oeddent yn faterion a nodwyd gan yr arolygydd yn unol â pharagraff (2)(a); a

(b)cyflwyno sylwadau llafar ar unrhyw faterion sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan baragraff (2)(b).

(4Oni bai bod yr arolygydd yn pennu fel arall mewn unrhyw achos penodol—

(a)y ceisydd sy’n cychwyn ac mae ganddo’r hawl i ymateb yn derfynol; a

(b)mae’r personau eraill sydd â’r hawl i ymddangos neu a ganiateir i ymddangos i gael gwrandawiad yn y drefn honno a bennir gan yr arolygydd.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2)(b), mae gan berson sydd â’r hawl i ymddangos yr hawl i alw tystiolaeth, ac mae gan y ceisydd ac awdurdod cynllunio cymwys yr hawl i groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth.

(6Caiff yr arolygydd wrthod caniatáu—

(a)rhoi neu gyflwyno tystiolaeth;

(b)croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu

(c)cyflwyno unrhyw fater arall,

y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus; ond pan fo’r arolygydd yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu unrhyw fater arall yn ysgrifenedig i’r arolygydd cyn i’r ymchwiliad gau.

(7Caiff yr arolygydd wrthod caniatáu croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, neu caiff ei gwneud yn ofynnol i groesholi o’r fath ddod i ben, os yw’n ymddangos i’r arolygydd y byddai caniatáu croesholi o’r fath, neu ganiatáu iddo barhau, yn golygu na fyddai’n bosibl cadw at yr amserlen a drefnir gan yr arolygydd o dan reoliad 13.

(8Ni chaiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i roi unrhyw dystiolaeth, neu ganiatáu rhoi neu gyflwyno unrhyw dystiolaeth, pa un ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, y mae’r arolygydd yn ystyried y byddai’n groes i fudd y cyhoedd; ond fel arall, caiff yr arolygydd gyfarwyddo y caiff unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos gerbron yr ymchwiliad, neu a ganiateir i ymddangos, edrych ar ddogfennau a gyflwynir fel tystiolaeth.

(9Pan fo person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen crynodeb o’i broflen dystiolaeth a gafwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18

(a)mae’r broflen dystiolaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno fel tystiolaeth, oni bai bod y person y mae’n ofynnol iddo ddarparu’r crynodeb yn hysbysu’r arolygydd ei fod bellach yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw yn unig; a

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2)(b)(ii), mae’r person y mae ei dystiolaeth wedi ei chynnwys ar y broflen dystiolaeth i fod yn ddarostyngedig i gael ei groesholi yn ei chylch i’r un graddau â phe bai’r dystiolaeth wedi ei rhoi ar lafar.

(10Pan fo’r arolygydd yn rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (2)(b)(i), rhaid trin unrhyw broflen dystiolaeth a geir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18 sy’n ymdrin â materion sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd hwnnw, i’r graddau y mae’n ymdrin â’r materion hynny, fel pe bai wedi ei chyflwyno fel tystiolaeth, oni bai—

(a)bod y person wedi darparu crynodeb yn unol â rheoliad 18 a bod y person hwnnw wedi hysbysu’r arolygydd ei fod bellach yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw yn unig, ac os felly, mae’r crynodeb i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno fel tystiolaeth i’r graddau y mae’n ymdrin â’r materion sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd;

(b)bod y person yn addasu’r broflen dystiolaeth neu’n ychwanegu ati o dan baragraff (13), ac os felly, mae’r broflen dystiolaeth, fel y’i haddaswyd neu yr ychwanegwyd ati, i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno fel tystiolaeth i’r graddau y mae’n ymdrin â’r materion sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd; neu

(c)bod y person sydd wedi anfon y broflen dystiolaeth yn hysbysu’r arolygydd nad yw’n dymuno rhoi neu alw’r dystiolaeth honno mwyach.

(11Caiff yr arolygydd gyfarwyddo bod cyfleusterau i fod ar gael i unrhyw berson sy’n ymddangos gerbron ymchwiliad i gymryd copïau o dystiolaeth ddogfennol sydd ar gael i’r cyhoedd edrych arni, neu gael copïau o’r dystiolaeth honno.

(12Caiff yr arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n ymddangos gerbron ymchwiliad neu sy’n bresennol yno sydd, ym marn yr arolygydd, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)ond caniatáu iddynt ddychwelyd o dan yr amodau hynny a bennir gan yr arolygydd,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu unrhyw fater arall yn ysgrifenedig i’r arolygydd cyn i’r ymchwiliad gau.

(13Caiff yr arolygydd ganiatáu i unrhyw berson addasu neu ychwanegu at ddatganiad achos a geir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12 neu broflen dystiolaeth a geir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18, i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad; ond rhaid i’r arolygydd (drwy ohirio’r ymchwiliad os yw hynny’n angenrheidiol) roi i bob person arall sydd â’r hawl i ymddangos sy’n ymddangos gerbron yr ymchwiliad gyfle digonol i ystyried unrhyw addasiad neu ychwanegiad o’r fath.

(14Caiff yr arolygydd fwrw ymlaen gydag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos ger ei fron.

(15Caiff yr arolygydd ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir gan yr arolygydd oddi wrth unrhyw berson arall cyn i ymchwiliad ddechrau neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod yr arolygydd yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.

(16Caiff yr arolygydd o bryd i’w gilydd ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, nid oes angen rhoi unrhyw hysbysiad pellach.

(17Rhaid i unrhyw berson sy’n ymddangos gerbron ymchwiliad sy’n gwneud sylwadau i gloi ddarparu copi ysgrifenedig o’u sylwadau i gloi i’r arolygydd erbyn i’r ymchwiliad gau.

Arolygiadau safle

21.—(1Caiff yr arolygydd gynnal arolygiad o’r man ar ei ben ei hun cyn ymchwiliad neu yn ystod ymchwiliad heb roi hysbysiad am fwriad yr arolygydd i’r personau sydd â hawl i ymddangos.

(2Yn ystod ymchwiliad neu ar ôl iddo gau, caiff yr arolygydd arolygu’r man yng nghwmni’r ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio cymwys, ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw wrthwynebydd cymwys sydd wedi dychwelyd ffurflen gofrestru yn unol â rheoliad 6(4)(a).

(3Pan fo’r arolygydd yn arolygu’r man ar ôl i ymchwiliad gau, nid oes gan wrthwynebydd cymwys yr hawl i fynd gyda’r arolygydd ar yr arolygiad hwnnw oni bai ei fod wedi ymddangos gerbron yr ymchwiliad.

(4Ym mhob achos pan fo’r arolygydd yn bwriadu cynnal arolygiad safle yng nghwmni eraill, rhaid i’r arolygydd gyhoeddi yn ystod yr ymchwiliad y dyddiad a’r amser y mae’r arolygydd yn bwriadu cynnal yr arolygiad hwnnw.

(5Nid yw’r arolygydd wedi ei rwymo i ohirio arolygiad o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (2) pan na fo unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn bresennol ar yr adeg benodedig.

Y weithdrefn ar ôl ymchwiliad

22.—(1Ar ôl i ymchwiliad gau, rhaid i’r arolygydd arweiniol gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys—

(a)ystyriaeth yr arolygydd arweiniol o’r cais neu’r cais i amrywio;

(b)yr ystyriaeth gan unrhyw arolygwr ychwanegol o’r materion sy’n ymwneud â’r cais neu’r cais i amrywio y mae’r arolygydd ychwanegol wedi ei gyfarwyddo i’w hystyried;

(c)casgliadau’r arolygydd arweiniol; a

(d)argymhellion yr arolygydd arweiniol, neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

(2Pan fo asesydd wedi ei benodi, caiff yr asesydd, ar ôl i’r ymchwiliad gau, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r arolygydd mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i roi cyngor yn eu cylch.

(3Pan fo asesydd yn cyflwyno adroddiad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r arolygydd atodi’r adroddiad hwnnw i’w adroddiad ei hun, a rhaid i’r arolygydd ddatgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’n cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r arolygydd yn anghytuno â’r asesydd, y rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.

(4Wrth wneud eu penderfyniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig, unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir ar ôl i’r ymchwiliad gau.

(5Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i ymchwiliad gau—

(a)yn anghydweld ag arolygydd ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a lunnir gan yr arolygydd, neu yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath; neu

(b)yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru),

ac oherwydd hynny yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan yr arolygydd arweiniol, ni chânt ddod i benderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad hwnnw heb yn gyntaf hysbysu yn ysgrifenedig y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad eu bod yn anghytuno, a’r rhesymau dros hynny; a rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy neu (os yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd, nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) ofyn am ailagor yr ymchwiliad.

(6Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu’n gofyn am ailagor yr ymchwiliad o dan baragraff (5) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau hynny neu’r archiadau hynny o fewn tair wythnos o ddyddiad hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraff hwnnw.

(7Caiff Gweinidogion Cymru, fel y gwelant yn dda, beri i ymchwiliad gael ei ailagor, a rhaid iddynt wneud hynny os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd neu awdurdod cynllunio cymwys o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (5) ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (6).

(8Pan fo ymchwiliad yn cael ei ailagor (pa un ai gan yr un arolygydd arweiniol neu gan arolygydd arweiniol gwahanol)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir cyflwyno rhagor o dystiolaeth yn eu cylch;

(b)mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 15 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir; ac

(c)mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai’r cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at y cyfarfod rhagymchwiliad yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir.

Hysbysu am benderfyniad

23.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon hysbysiad ysgrifenedig am eu penderfyniad ynghylch cais neu gais i amrywio, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, at—

(a)y ceisydd;

(b)pob person a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd; ac

(c)unrhyw berson arall a oedd wedi ymddangos gerbron yr ymchwiliad, sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu am y penderfyniad.

(2Tybir bod hysbysiad ysgrifenedig am benderfyniad a’r rhesymau drosto wedi ei roi i berson at ddibenion y rheoliad hwn pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru a’r person wedi cytuno y caiff y penderfyniadau a’r rhesymau y mae’n ofynnol eu rhoi yn ysgrifenedig o dan y rheoliad hwn gael eu cyrchu yn hytrach gan y person hwnnw drwy wefan;

(b)y penderfyniad a’r rhesymau yn benderfyniad a rhesymau y mae’r cytundeb hwnnw yn gymwys iddynt;

(c)Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a

(d)y person yn cael ei hysbysu, yn y dull y cytunir arno am y tro rhwng y person hwnnw a Gweinidogion Cymru, am—

(i)cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;

(ii)cyfeiriad y wefan; a

(iii)ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r penderfyniad a’r rhesymau, a sut y gellir eu cyrchu.

(3Pan na fo copi o adroddiad yr arolygydd arweiniol wedi ei anfon gyda’r hysbysiad am y penderfyniad, rhaid i ddatganiad o gasgliadau’r arolygydd arweiniol ac unrhyw argymhellion a wneir ganddo fynd gyda’r hysbysiad, ac os nad yw person sydd â hawl i gael ei hysbysu am y penderfyniad wedi cael copi o’r adroddiad hwnnw, rhaid anfon copi ohono at y person hwnnw ar gais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad” yn cynnwys unrhyw adroddiad asesydd a atodir i adroddiad arolygydd ac adroddiad arolygydd ychwanegol a atodir i adroddiad yr arolygydd arweiniol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw ddogfennau eraill a atodir felly; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, o fewn chwe wythnos o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.

(5Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (3) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cais o fewn pedair wythnos o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Y weithdrefn yn dilyn dileu penderfyniad

24.—(1Pan fo penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch cais neu gais i amrywio y cynhelir ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef yn cael ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir rhagor o sylwadau mewn cysylltiad â hwy at ddibenion ystyried ymhellach y cais neu’r cais i amrywio;

(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r personau hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy mewn cysylltiad â’r materion hynny neu ofyn am ailagor yr ymchwiliad; ac

(c)caiff Gweinidogion Cymru, fel y gwelant yn dda, beri i’r ymchwiliad gael ei ailagor (pa un ai gan yr un arolygydd arweiniol neu arolygydd gwahanol).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn peri i ymchwiliad gael ei ailagor—

(a)mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 15 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir; a

(b)mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at y cyfarfod rhagymchwiliad yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir.

(3Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau neu’n gofyn am ailagor yr ymchwiliad o dan baragraff (1)(b) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau hynny neu’r archiadau hynny o fewn tair wythnos o ddyddiad y datganiad ysgrifenedig a anfonwyd o dan baragraff (1)(a).

Caniatáu rhagor o amser

25.  Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg mewn unrhyw achos penodol ganiatáu rhagor o amser ar gyfer cymryd unrhyw gam sy’n ofynnol, neu y galluogir ei gymryd, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddiwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol cymryd unrhyw gam, neu y galluogir cymryd unrhyw gam, neu at gyfnod y mae’n ofynnol gwneud hynny o’i fewn, i’w dehongli yn unol â hynny.

Copïau ychwanegol

26.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i ymchwiliad gau, ofyn am gopïau o’r canlynol oddi wrth unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos neu a ganiateir i ymddangos—

(a)datganiad amlinellol (fel y crybwyllir yn rheoliad 6(4)(c)) a anfonir yn unol â rheoliad 6(4)(a);

(b)datganiad achos neu sylwadau a anfonir yn unol â rheoliad 12;

(c)proflen dystiolaeth a anfonir yn unol â rheoliad 18; neu

(d)unrhyw ddogfen arall neu wybodaeth arall a anfonir at Weinidogion Cymru cyn ymchwiliad neu yn ystod ymchwiliad,

a rhaid iddynt bennu’r cyfnod y mae rhaid iddynt gael y dogfennau hynny ynddo.

(2Rhaid i unrhyw berson y gofynnir iddo wneud hynny sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y copïau o fewn y cyfnod penodedig.

Anfon hysbysiadau ac edrych ar ddogfennau

27.—(1Caniateir anfon hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol eu hanfon neu yr awdurdodir eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy’r post; neu

(b)drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i anfon neu gyflenwi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn y cyfeiriad hwnnw a bennir am y tro gan y person at y diben hwnnw.

(2Pan fo rhwymedigaeth ar awdurdod cynllunio perthnasol neu, yn ôl y digwydd, awdurdod â buddiant, i roi cyfle i unrhyw berson sy’n gofyn am hynny edrych ar unrhyw ddogfen a chymryd copïau o unrhyw ddogfen, tybir bod cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person yn cael ei hysbysu am—

(a)cyhoeddi’r ddogfen berthnasol ar wefan;

(b)cyfeiriad y wefan; ac

(c)ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r ddogfen, a sut y gellir ei chyrchu.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau y mae Gweinidogion Cymru yn peri iddynt gael eu cynnal mewn perthynas â cheisiadau:

At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at gais am gydsyniad adran 36 yn cynnwys unrhyw gais o dan adran 36A o Ddeddf 1989 am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo cyhoeddus a wneir gyda chais am gydsyniad adran 36.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adrannau 36 a 36C o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw’n fwy na 350 megawat, neu a fydd â chapasiti nad yw’n fwy na hynny.

Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1989 p. 29 . Mewnosodwyd adran 36(8A) gan baragraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mewnosodwyd adran 36C gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) (“Deddf 2013”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(12) o Ddeddf 2017, a pharagraff 48 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 36C a diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 36 gan adran 93 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) , paragraff 32 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 12(7) ac (8) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”), adran 78 o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20) ac adran 39(7) i (11) o Ddeddf 2017, a pharagraff 47 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Gweler adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (“Deddf 1989”) am y diffiniad o “generating station” (“gorsaf gynhyrchu”).

(4)

Mewnosodwyd adran 36A yn Neddf 1989 gan adran 99(1) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) ac fe’i diwygiwyd gan adran 12(7) ac (8) o Ddeddf 2009 ac adran 40(1) i (5) o Ddeddf 2017.

(5)

2000 p. 7 . Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) .

(6)

Amnewidiwyd adran 90(2) a (2ZA) gan adran 21(2) o Ddeddf 2013 (p. 27) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(13) o Ddeddf 2017.

(7)

1990 p. 8 .

(10)

1971 p. 80 .

(11)

Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 1 o Atodlen 18 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a mewnosodwyd is-adran (1B) yn adran 2 gan adran 19(1) o’r Ddeddf honno.

(12)

1980 p. 65 .