Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3)
Diwygio Rheoliadau 20172.
(1)
Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad 65—
(a)
ym mharagraff (1), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”;
(b)
“(2)
Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—
(a)
y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu
(b)
mewn cysylltiad â—
(i)
gorchmynion datblygu lleol;
(ii)
gorchmynion adran 97;
(iii)
gorchmynion adran 102; neu
(iv)
cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,
yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.”;
(c)
ym mharagraff (9), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”.
(3)
“mae i “llinell drydan” yr ystyr a roddir i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 19895.”
(4)
“(k) Trosglwyddo ynni trydanol drwy geblau uwchben.
Datblygiad i ddarparu llinell drydan a osodir uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 o gilofoltiau.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn amnewid y darpariaethau arbed a throsiannol ym mharagraffau (2) i (6) o reoliad 65 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 i ychwanegu gosod llinellau trydan uwchben penodol. Effaith y diwygiad hwn yw y gallai fod angen cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â datblygiad o’r fath cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.