Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 299 (Cy. 76)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref(2), drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno a chan adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(4).

Diwygio Rheoliadau 2017

2.—(1Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 65—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”;

(b)yn lle paragraffau (2) i (6) rhodder—

(2) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—

(a)y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu

(b)mewn cysylltiad â—

(i)gorchmynion datblygu lleol;

(ii)gorchmynion adran 97;

(iii)gorchmynion adran 102; neu

(iv)cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,

yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.;

(c)ym mharagraff (9), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”.

(3Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “llinell drydan” yr ystyr a roddir i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(5).

(4Yn y tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2, ar ddiwedd pwnc 3 (Diwydiant ynni) mewnosoder—

(k) Trosglwyddo ynni trydanol drwy geblau uwchben.Datblygiad i ddarparu llinell drydan a osodir uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 o gilofoltiau.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn amnewid y darpariaethau arbed a throsiannol ym mharagraffau (2) i (6) o reoliad 65 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 i ychwanegu gosod llinellau trydan uwchben penodol. Effaith y diwygiad hwn yw y gallai fod angen cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â datblygiad o’r fath cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2007/1679. Gweler erthygl 4.

(3)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 71A gan adran 15 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer y Ddeddf honno. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2).