NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Parodrwydd i Ddal Carbon (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan) 2013 (“Rheoliadau 2013”) o ganlyniad i’r datganoliad, gan Ddeddf Cymru 2017, o swyddogaethau cydsynio ym maes ynni mewn perthynas â gorsafoedd cynhyrchu trydan yng Nghymru, y mae neu y bydd ganddynt gapasiti nad yw’n fwy na 350 o fegawatiau.
Gweithredodd Rheoliadau 2013 Erthygl 36 o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd) (Ail-lunio) (OJ Rhif L334, 17.12.2010, t.17).
Mae rheoliad 2 yn mewnosod diffiniadau newydd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â swyddogaethau newydd Gweinidogion Cymru o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008 mewn perthynas â chyfarparau hylosgi yng Nghymru y mae cyfradd eu hallbwn trydanol rhwng 300 a 350 o fegawatiau.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 6A newydd. Mae rheoliad 6A yn ymwneud â chaniatadau cynllunio ar gyfer adeiladu cyfarparau hylosgi yng Nghymru y mae cyfradd eu hallbwn trydanol rhwng 300 a 350 o fegawatiau (neu ar gyfer estyniadau i gyfarparau hylosgi yng Nghymru sy’n cael yr effaith o gynyddu cyfradd allbwn trydanol y cyfarparau i rhwng 300 a 350 o fegawatiau). Cyn rhoi caniatâd cynllunio o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod cynllunio lleol (fel y bo’n gymwys) benderfynu a yw amodau penodol wedi eu bodloni o ran dichonoldeb dal a storio carbon. Os yw’r amodau wedi eu bodloni, rhaid i’r caniatâd cynllunio gynnwys amodau ar gyfer neilltuo lle addas ar gyfer yr offer sy’n angenrheidiol i ddal a chywasgu’r holl garbon deuocsid a fyddai fel arall yn cael ei allyrru o’r cyfarpar.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.