2019 Rhif 292 (Cy. 70)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A), 36C(2) a (6) a 60 o Ddeddf Trydan 19891, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygio Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 20172

1

Mae Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 20172 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3 (dehongli), yn y diffiniad o “relevant authority”, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

or

c

in relation to an application for a section 36 consent or for a section 36 variation made (or to be made) to the Welsh Ministers, the Welsh Ministers;

3

Yn rheoliad 4(1)(c)(i), ar y dechrau, mewnosoder “save where the Welsh Ministers are the relevant authority,”.

4

Yn rheoliad 22(3), ar ôl “under regulation 4(6) of the Electricity Generating Stations (Variation of Consents) (England and Wales) Regulations 2013” mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 4(6) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019,”.

5

Yn rheoliad 28 (gwefan geisiadau)—

a

ym mharagraff (3), ar ôl “under regulation 5(2A) of the Electricity Generating Stations (Variation of Consents) (England and Wales) Regulations 2013” mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 5(3) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019,”;

b

ym mharagraff (4), ar y diwedd, mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 5(2) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019”.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

Mae ceisiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adrannau 36 a 36C o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw’n fwy na 350 megawat, neu a fydd â chapasiti nad yw’n fwy na hynny, i’w gwneud i Weinidogion Cymru. Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos â Chymru a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

  • y diffiniad o “relevant authority” i ddarparu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod perthnasol pan wneir cais o dan adran 36 neu 36C (neu pan fo cais o’r fath i’w wneud) i Weinidogion Cymru;

  • ystyr “consultation body”; a

  • rheoliadau 22 a 28 o Reoliadau 2017 i fewnosod cyfeiriad at Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.