- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trydan, Cymru
Gwnaed
18 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A), 36C(2) a (6) a 60 o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
2.—(1) Mae Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli), yn y diffiniad o “relevant authority”, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“or
(c)in relation to an application for a section 36 consent or for a section 36 variation made (or to be made) to the Welsh Ministers, the Welsh Ministers;”.
(3) Yn rheoliad 4(1)(c)(i), ar y dechrau, mewnosoder “save where the Welsh Ministers are the relevant authority,”.
(4) Yn rheoliad 22(3), ar ôl “under regulation 4(6) of the Electricity Generating Stations (Variation of Consents) (England and Wales) Regulations 2013” mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 4(6) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019,”.
(5) Yn rheoliad 28 (gwefan geisiadau)—
(a)ym mharagraff (3), ar ôl “under regulation 5(2A) of the Electricity Generating Stations (Variation of Consents) (England and Wales) Regulations 2013” mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 5(3) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019,”;
(b)ym mharagraff (4), ar y diwedd, mewnosoder “, or in a case where the Welsh Ministers are the relevant authority, under regulation 5(2) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Variation of Consents) (Wales) Regulations 2019”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithfeydd Trydan (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017 (“Rheoliadau 2017”).
Mae ceisiadau a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adrannau 36 a 36C o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw’n fwy na 350 megawat, neu a fydd â chapasiti nad yw’n fwy na hynny, i’w gwneud i Weinidogion Cymru. Ystyr “dyfroedd Cymru” yw hynny o ddyfroedd mewnol a moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos â Chymru a pharth Cymru. Mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
y diffiniad o “relevant authority” i ddarparu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod perthnasol pan wneir cais o dan adran 36 neu 36C (neu pan fo cais o’r fath i’w wneud) i Weinidogion Cymru;
ystyr “consultation body”; a
rheoliadau 22 a 28 o Reoliadau 2017 i fewnosod cyfeiriad at Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 29. Mewnosodwyd adran 36(8A) gan baragraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mewnosodwyd adran 36C gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) ac fe’i diwygiwyd gan adran 39(12) o Ddeddf 2017, a pharagraff 48 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 36C a diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2017/580, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: