Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z, 62R a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 62 o’r Ddeddf honno2 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62 gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016)4, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2)
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gais a wneir, neu y bwriedir ei wneud, i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn” yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20165.
Diwygio’r Gorchymyn Gweithdrefn2.
(1)
Mae’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn erthygl 2, yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “y Rheoliadau Meini Prawf” (“the Criteria Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 20166;”.
(3)
Yn erthygl 8—
(a)
ar ddiwedd paragraff (1)(b)(vii) hepgorer “ac”;
(b)
ar ddiwedd paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder “; a”; ac
(c)
ar ôl paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder—
“(ix)
yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol.”
(4)
Yn erthygl 12—
(a)
ar ddiwedd paragraff (1)(b)(ix) hepgorer “a”;
(b)
ar ddiwedd paragraff (1)(b)(x) mewnosoder “; a”; ac
(c)
ar ôl paragraff (1)(b)(x) mewnosoder—
“(xi)
yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol, a pha un a gytunwyd ar yr holl fforddfreintiau angenrheidiol gyda pherchnogion a meddianwyr y tir y bwriedir i’r llinell ei groesi.”
(5)
Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.
(6)
Yn lle Atodlen 2, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.
(7)
Mae’r diwygiadau yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn yn cael effaith.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
ATODLEN 3Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio
Erthygl 2(7)
1.
Mae Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei diwygio fel a ganlyn
2.
Yn y Tabl—
(a)
yn lle paragraff (h) rhodder—
“(h)
(i)
Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.
(ii)
Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—
(a)
ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;
(b)
ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor;
(c)
ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor;
(d)
ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu
(e)
ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor.
(iii)
Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad y parc hwnnw neu’r ardd honno;
(iv)
Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu
(v)
Datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd
Gweinidogion Cymru”
(b)
hepgorer paragraff (k); ac
(c)
ar ôl paragraff (t) mewnosoder—
“(u)
Datblygiad—
(i)
ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;
(ii)
sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(v)
Unrhyw ddatblygiad
Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol”
3.
Yn y diffiniadau a roddir o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
(a)
yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)
ym mharagraff (h)—
(i)
mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (henebion cofrestredig)7;
(ii)
mae cyfeiriad at uchder datblygiad i’w ddehongli fel cyfeiriad at ei uchder wedi ei fesur o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad dan sylw neu, pan na fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno yn wastad, lefel rhan uchaf yr arwyneb yn union gerllaw’r datblygiad;
(iii)
ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yw’r parc, yr ardd neu’r dirwedd sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru8;
(iv)
ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 19729;”; a
(b)
ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(j)
ym mharagraff (u)—
(i)
ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd10;
(ii)
ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w hamddiffyn rhag llifogydd;
(iii)
mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag a roddir iddynt yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 201211.”
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“y Gorchymyn Gweithdrefn”).
Mae erthygl 2 yn diwygio erthyglau 8 a 12 o’r Gorchymyn Gweithdrefn. Mae’r diwygiadau yn ychwanegu gofynion pan fo datblygiad yn cynnwys gosod mathau penodol o linellau trydan uwchben. Mae’r gofynion yn ymwneud â’r wybodaeth y mae’n rhaid i berson sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ei chyhoeddi, a chynnwys y cais hwnnw.
Mae Atodlenni 1 a 2 yn amnewid y ffurflenni hysbysu yn Atodlenni 1 a 2 i’r Gorchymyn Gweithdrefn er mwyn ystyried y ffaith y caniateir i benderfyniadau ynghylch cydsyniadau sy’n gysylltiedig â datblygu llinellau trydan uwchben penodol gael eu cymryd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
Mae Atodlen 3 yn diwygio Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn. Effaith y diwygiadau hynny yw diwygio’r gofynion mewn cysylltiad â’r ymgyngoreion arbenigol y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, o dan erthygl 22 o’r Gorchymyn hwnnw, ymgynghori â hwy cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.