Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 290 (Cy. 68)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z, 62R a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 62 o’r Ddeddf honno(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62 gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016)(4), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gais a wneir, neu y bwriedir ei wneud, i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn” yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(5).

Diwygio’r Gorchymyn Gweithdrefn

2.—(1Mae’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau Meini Prawf” (“the Criteria Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016(6);.

(3Yn erthygl 8—

(a)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(vii) hepgorer “ac”;

(b)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder “; a”; ac

(c)ar ôl paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder—

(ix)yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol.

(4Yn erthygl 12—

(a)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(ix) hepgorer “a”;

(b)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(x) mewnosoder “; a”; ac

(c)ar ôl paragraff (1)(b)(x) mewnosoder—

(xi)yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol, a pha un a gytunwyd ar yr holl fforddfreintiau angenrheidiol gyda pherchnogion a meddianwyr y tir y bwriedir i’r llinell ei groesi.

(5Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

(6Yn lle Atodlen 2, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

(7Mae’r diwygiadau yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn yn cael effaith.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

Erthygl 2(5)

ATODLEN 1Amnewid Atodlen 1 i’r Gorchymyn Gweithdrefn

Erthyglau 8 a 9(5)

ATODLEN 1Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Erthygl 2(6)

ATODLEN 2Amnewid Atodlen 2 i’r Gorchymyn Gweithdrefn

Erthygl 9(5)

ATODLEN 2

Erthygl 2(7)

ATODLEN 3Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio

1.  Mae Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei diwygio fel a ganlyn

2.  Yn y Tabl—

(a)yn lle paragraff (h) rhodder—

(h)
(i)

Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.

(ii)

Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—

(a)

ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;

(b)

ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor;

(c)

ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor;

(d)

ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu

(e)

ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor.

(iii)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad y parc hwnnw neu’r ardd honno;

(iv)

Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu

(v)

Datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd

Gweinidogion Cymru

(b)hepgorer paragraff (k); ac

(c)ar ôl paragraff (t) mewnosoder—

(u)

Datblygiad—

(i)

ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;

(ii)

sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(v)Unrhyw ddatblygiadYr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

3.  Yn y diffiniadau a roddir o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—

(a)yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)ym mharagraff (h)—

(i)mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (henebion cofrestredig)(7);

(ii)mae cyfeiriad at uchder datblygiad i’w ddehongli fel cyfeiriad at ei uchder wedi ei fesur o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad dan sylw neu, pan na fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno yn wastad, lefel rhan uchaf yr arwyneb yn union gerllaw’r datblygiad;

(iii)ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yw’r parc, yr ardd neu’r dirwedd sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru(8);

(iv)ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972(9);; a

(b)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(j)ym mharagraff (u)—

(i)ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd(10);

(ii)ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w hamddiffyn rhag llifogydd;

(iii)mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag a roddir iddynt yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012(11).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“y Gorchymyn Gweithdrefn”).

Mae erthygl 2 yn diwygio erthyglau 8 a 12 o’r Gorchymyn Gweithdrefn. Mae’r diwygiadau yn ychwanegu gofynion pan fo datblygiad yn cynnwys gosod mathau penodol o linellau trydan uwchben. Mae’r gofynion yn ymwneud â’r wybodaeth y mae’n rhaid i berson sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ei chyhoeddi, a chynnwys y cais hwnnw.

Mae Atodlenni 1 a 2 yn amnewid y ffurflenni hysbysu yn Atodlenni 1 a 2 i’r Gorchymyn Gweithdrefn er mwyn ystyried y ffaith y caniateir i benderfyniadau ynghylch cydsyniadau sy’n gysylltiedig â datblygu llinellau trydan uwchben penodol gael eu cymryd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

Mae Atodlen 3 yn diwygio Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn. Effaith y diwygiadau hynny yw diwygio’r gofynion mewn cysylltiad â’r ymgyngoreion arbenigol y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, o dan erthygl 22 o’r Gorchymyn hwnnw, ymgynghori â hwy cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Diwygiwyd adran 333 gan: adran 78 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), a pharagraff 32(12) o Atodlen 10 iddi; adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 6 iddi; O.S. 2014/2773 (Cy. 280) ac adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraffau 3 a 6 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 333 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf 2015, a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, Mae diwygiadau eraill i adran 59 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(10)

Mae mapiau sy’n dangos parthau llifogydd ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru ar http://data.wales.gov.uk/apps/floodmapping.

(11)

Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: 07/2012.