- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
18 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z, 62R a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 62 o’r Ddeddf honno(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62 gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016)(4), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gais a wneir, neu y bwriedir ei wneud, i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn” yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(5).
2.—(1) Mae’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “y Rheoliadau Meini Prawf” (“the Criteria Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016(6);”.
(3) Yn erthygl 8—
(a)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(vii) hepgorer “ac”;
(b)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder “; a”; ac
(c)ar ôl paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder—
“(ix)yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol.”
(4) Yn erthygl 12—
(a)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(ix) hepgorer “a”;
(b)ar ddiwedd paragraff (1)(b)(x) mewnosoder “; a”; ac
(c)ar ôl paragraff (1)(b)(x) mewnosoder—
“(xi)yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol, a pha un a gytunwyd ar yr holl fforddfreintiau angenrheidiol gyda pherchnogion a meddianwyr y tir y bwriedir i’r llinell ei groesi.”
(5) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.
(6) Yn lle Atodlen 2, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.
(7) Mae’r diwygiadau yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn yn cael effaith.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019
Erthygl 2(5)
Erthyglau 8 a 9(5)
Erthygl 2(6)
Erthygl 9(5)
Erthygl 2(7)
1. Mae Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei diwygio fel a ganlyn
2. Yn y Tabl—
(a)yn lle paragraff (h) rhodder—
| “(h) | (i) Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig. (ii) Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn— (a) ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig; (b) ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor; (c) ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor; (d) ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu (e) ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor. (iii) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad y parc hwnnw neu’r ardd honno; (iv) Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu (v) Datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd | Gweinidogion Cymru” |
(b)hepgorer paragraff (k); ac
(c)ar ôl paragraff (t) mewnosoder—
| “(u) | Datblygiad— (i) ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2; (ii) sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon | Corff Adnoddau Naturiol Cymru |
| (v) | Unrhyw ddatblygiad | Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol” |
3. Yn y diffiniadau a roddir o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
(a)yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)ym mharagraff (h)—
(i)mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (henebion cofrestredig)(7);
(ii)mae cyfeiriad at uchder datblygiad i’w ddehongli fel cyfeiriad at ei uchder wedi ei fesur o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad dan sylw neu, pan na fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno yn wastad, lefel rhan uchaf yr arwyneb yn union gerllaw’r datblygiad;
(iii)ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yw’r parc, yr ardd neu’r dirwedd sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru(8);
(iv)ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972(9);”; a
(b)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(j)ym mharagraff (u)—
(i)ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd(10);
(ii)ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w hamddiffyn rhag llifogydd;
(iii)mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag a roddir iddynt yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012(11).”
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“y Gorchymyn Gweithdrefn”).
Mae erthygl 2 yn diwygio erthyglau 8 a 12 o’r Gorchymyn Gweithdrefn. Mae’r diwygiadau yn ychwanegu gofynion pan fo datblygiad yn cynnwys gosod mathau penodol o linellau trydan uwchben. Mae’r gofynion yn ymwneud â’r wybodaeth y mae’n rhaid i berson sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ei chyhoeddi, a chynnwys y cais hwnnw.
Mae Atodlenni 1 a 2 yn amnewid y ffurflenni hysbysu yn Atodlenni 1 a 2 i’r Gorchymyn Gweithdrefn er mwyn ystyried y ffaith y caniateir i benderfyniadau ynghylch cydsyniadau sy’n gysylltiedig â datblygu llinellau trydan uwchben penodol gael eu cymryd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
Mae Atodlen 3 yn diwygio Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn. Effaith y diwygiadau hynny yw diwygio’r gofynion mewn cysylltiad â’r ymgyngoreion arbenigol y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, o dan erthygl 22 o’r Gorchymyn hwnnw, ymgynghori â hwy cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Diwygiwyd adran 333 gan: adran 78 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), a pharagraff 32(12) o Atodlen 10 iddi; adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 6 iddi; O.S. 2014/2773 (Cy. 280) ac adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraffau 3 a 6 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 333 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf 2015, a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, Mae diwygiadau eraill i adran 59 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2016/55 (Cy. 25), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/567 (Cy. 136).
O.S. 2016/53 (Cy. 23), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/358 (Cy. 111) ac O.S. 2019/283 (Cy. 65).
Gweler http://whc.unesco.org/en/list.
Mae mapiau sy’n dangos parthau llifogydd ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru ar http://data.wales.gov.uk/apps/floodmapping.
Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: 07/2012.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: