2019 Rhif 283 (Cy. 65)
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 62D a 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf2 honno ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 333(3E) o’r Ddeddf honno4, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
Diwygiadau i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 20162
1
Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 20165 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl rheoliad 3(1)(aa) (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cyffredinol) mewnosoder—
ab
gosod llinell drydan uwchben y ddaear;
3
Yn rheoliad 4 (gorsafoedd cynhyrchu)—
a
ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “50 megawat” rhodder “350 megawat”;
b
ym mharagraff (3)—
i
yn y diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) ar ôl “ond nid yw’n cynnwys gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” mewnosoder “na chyfleuster sy’n cynhyrchu trydan o ynni wedi ei storio”;
ii
mewnosoder yn y mannau priodol—
“cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp” (“a pumped hydroelectric storage facility”) yw cyfleuster sy’n storio ynni disgyrchol potensial dŵr sydd wedi cael ei bwmpio i lefel uwch er mwyn defnyddio ei gwymp yn ôl i’r lefel is i gynhyrchu trydan;
ystyr “ynni wedi ei storio” (“stored energy”) yw ynni—
- a
a drawsnewidiwyd o drydan; a
- b
sy’n cael ei storio at ddiben ei aildrawsnewid yn drydan yn y dyfodol,
ond nid yw’n cynnwys ynni wedi ei storio mewn cyfleuster storio hydrodrydan â phwmp;.
4
Ar ôl rheoliad 4A (gorsafoedd cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir) mewnosoder—
Llinellau Trydan4B
1
Nid yw gosod llinell drydan uwchben y ddaear ond o fewn rheoliad 3(1)(ab)—
a
os oes gan y llinell o dan sylw foltedd enwol o 132 cilofolt neu lai; a
b
os yw’r llinell o dan sylw yn gysylltiedig ag adeiladu neu estyn gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru sydd wedi cael caniatâd cynllunio neu sydd wedi cael cydsyniad ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
2
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw hynny o ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy’n gyfagos i Gymru, a pharth Cymru;
ystyr “gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru” (“devolved Welsh generation station”) yw gorsaf gynhyrchu—
- a
sydd yng Nghymru ac—
- i
sy’n cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt, neu
- ii
sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai; neu
- b
sydd yn nyfroedd Cymru ac sydd â’r gallu cynhyrchu uchaf o 350 megawat neu lai;
ystyr “llinell drydan” (“electric line”) yw unrhyw linell sy’n cael ei ddefnyddio i ddargludo trydan at unrhyw ddiben ac sy’n cynnwys, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
- a
unrhyw gynhaliad ar gyfer unrhyw linell o’r fath, hynny yw, unrhyw strwythur, polyn neu wrthrych arall y mae unrhyw linell o’r fath yn cael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono neu y gall unrhyw linell o’r fath gael ei chynnal, ei chario neu ei chrogi ynddo, arno, ganddo neu ohono;
- b
unrhyw gyfarpar sy’n gysylltiedig ag unrhyw linell o’r fath at ddiben dargludo trydan; ac
- c
unrhyw wifren, cebl, tiwb, pibell neu wrthrych tebyg arall (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) sy’n amgylchynu neu sy’n cynnal unrhyw linell o’r fath, neu sydd wedi ei hamgylchynu neu ei amgylchu neu ei chynnal neu ei gynnal ganddi, neu wedi ei gosod neu ei osod yn agos ati, neu wedi ei chynnal neu ei gynnal, ei chario neu ei gario neu ei chrogi neu ei grogi mewn cysylltiad ag unrhyw linell o’r fath; ac
mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20066.
Diwygiadau i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 20163
1
Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 20167 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 6(2)(e) ar ôl “y ffi” mewnosoder “(os oes un)”.
3
Yn rheoliad 12 ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A),” ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—
1A
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gais am ddatblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 ac eithrio yn ystod unrhyw gyfnod y mae’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer ynddo gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan baragraff 9 o Atodlen 4D i Ddeddf 19908.
Diwygiadau i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 20154
1
Mae rheoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 20159 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraffau (3) a (4) rhodder—
3
Nid yw ffi ond yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig os ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio—
a
y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol; neu
b
y byddai ffi wedi bod yn daladwy o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i Weinidogion Cymru.
4
Swm y ffi yw—
a
pan fyddai cais wedi ei wneud i’r awdurdod perthnasol, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais; neu
b
pan fyddai cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru, dwywaith swm y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â’r cais pe bai’r cais wedi ei wneud i’r awdurdod a phe bai’r datblygiad wedi dod o fewn paragraff 9(b) o Ran 2 o Atodlen 1.
3
Ym mharagraff (9) ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “neu” ac ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
neu
c
cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i Weinidogion Cymru y ffi sy’n daladwy pan wneir y cais hwnnw,
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)