Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3)
Daw rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2), 3(4)(a)(iii), 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), 6(4)(b) a 6(12)(c) i rym 21 niwrnod ar ôl y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
(4)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 20042.
(1)
(2)
(3)
(4)
Yn rheoliad 13(2)(b), yn lle “sy’n ofynnol o dan” rhodder “fel y’u pennir yn”.
(5)
Yn rheoliad 14, ym mharagraffau (1) a (3)(a), ar ôl “Aelod-wladwriaeth” hepgorer “arall”.
(6)
Yn rheoliad 15—
(a)
yn y pennawd, hepgorer “eraill”; a
(b)
hepgorer y geiriau o “o dan” i “Rhaglenni”.
(7)
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(d), yn lle “deddfwriaeth yr UE” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir”.
(8)
Yn Atodlen 2—
(a)
ym mharagraff 4—
(i)
(ii)
yn lle “yn unol â” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi”; a
(b)
ym mharagraff 5, yn lle “Aelod-wladwriaethol” rhodder “genedlaethol”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 20093.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
(ii)
(b)
ym mharagraff (7), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor” mewnosoder “(ac eithrio’r Gyfarwyddeb)”.
(3)
Yn rheoliad 9(1)—
(a)
yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru”, rhodder “Heb ragfarnu rheoliad 52, caiff Gweinidogion Cymru”; a
(b)
hepgorer y geiriau o “yn unol ag” hyd at y diwedd.
(4)
Yn Atodlen 1—
(a)
ym mharagraff 2(c)(v)—
(i)
ar ôl “ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU”;
(ii)
yn lle “gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a
(iii)
ar ôl “Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt”; a
(b)
ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20164.
(1)
(2)
Yn rheoliad 4(4), yn lle “yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb)” rhodder “o dan amgylchiadau eithriadol, heb leihau effaith rheoliadau 56 a 57”.
(3)
Yn rheoliad 51(a), hepgorer “arall”.
(4)
Yn rheoliad 53—
(a)
yn y pennawd ac ym mharagraff (1)(a) a (b), hepgorer “arall”;
(b)
ym mharagraff (4)(a), yn lle “awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “awdurdodau yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi eu dynodi yn awdurdodau sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac
(c)
ym mharagraff (5), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”.
(5)
Yn rheoliad 54—
(a)
yn y pennawd, hepgorer “arall”;
(b)
ym mharagraff (1)—
(i)
hepgorer “arall”, yn y ddau le y mae’n digwydd;
(ii)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(1) neu 7(2) o’r Gyfarwyddeb,”;
(iii)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb,”; a
(iv)
yn is-baragraff (b), yn lle “i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb” rhodder “i’r awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; ac
(c)
ym mharagraff (2)—
(i)
yn is-baragraff (b), yn lle “awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; a
(ii)
yn is-baragraff (c), yn lle “awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”.
(6)
(7)
Yn Atodlen 2, yn y tabl ym mharagraff 2 yn eitem 3(j), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.
(8)
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2(c)—
(a)
ym mharagraff (v)—
(i)
ar ôl “o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau” mewnosoder “neu o dan ddeddfwriaeth unrhyw ran o’r DU,”;
(ii)
hepgorer “gan Aelod-wladwriaethau”; a
(iii)
yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a
(b)
ym mharagraff (vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
(9)
Yn Atodlen 5, ym mharagraff 12(a), hepgorer “arall”.
(10)
Yn Atodlen 6, ym mharagraff 15(b), hepgorer “arall”.
Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 20175.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1), yn y mannau priodol, mewnosoder—
(a)
““ystyr “aelodau’r cyhoedd” (“public”) yw un neu ragor o bersonau naturiol neu bersonau cyfreithiol ac, yn unol â chyfraith unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig neu arfer unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, eu cymdeithasau, eu sefydliadau neu eu grwpiau;”;
(b)
“ystyr “aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy” (“public concerned”) yw’r aelodau hynny o’r cyhoedd y mae’r gweithdrefnau gwneud penderfyniadau amgylcheddol yn effeithio arnynt, neu’n debygol o effeithio arnynt, neu’r aelodau hynny o’r cyhoedd sydd â buddiant yn y gweithdrefnau hynny (at ddibenion y diffiniad hwn, bernir bod buddiant gan sefydliadau anllywodraethol sy’n hybu diogelu’r amgylchedd ac yn bodloni unrhyw ofynion o dan y gyfraith genedlaethol berthnasol);”; ac
(c)
““mae i “Natura 2000” yr un ystyr ag a roddir i “Natura 2000” yn rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau Cynefinoedd;”.
(3)
Yn rheoliad 2(2)—
(a)
hepgorer “y Gyfarwyddeb AEA neu yn”;
(b)
yn lle “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” rhodder “y Rheoliadau Cynefinoedd”; ac
(c)
yn lle “y Gyfarwyddeb berthnasol” rhodder “y Rheoliadau Cynefinoedd”.
(4)
Yn rheoliad 3—
(a)
ym mharagraff (3)—
(i)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”; a
(ii)
ar ôl “Rheoliadau hyn” mewnosoder “, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”;
(b)
“(3A)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan baragraff (3) oni bai—
(a)
ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol;
(b)
y byddai cymhwyso’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar ddiben y prosiect;
(c)
eu bod wedi ystyried pa un a fyddai dull asesu arall yn briodol;
(d)
y bodlonir amcanion y Gyfarwyddeb er nad yw eu gofynion wedi eu cyflawni; ac
(e)
nad yw’r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE.
(3B)
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y canlynol ar gael i aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy—
(a)
yr wybodaeth a geir o unrhyw ddull asesu arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad o dan baragraff (3A) pa un ai i ganiatáu esemptiad; a
(b)
y rhesymau dros ei ganiatáu.”; ac
(c)
ym mharagraff (4), yn lle “Gyfarwyddeb Cynefinoedd” rhodder “Rheoliadau Cynefinoedd”.
(5)
Yn rheoliad 11(3)(e), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.
(6)
Yn rheoliad 13—
(a)
yn y pennawd ac ym mharagraff (1), hepgorer “arall”;
(b)
ym mharagraff (4)—
(i)
hepgorer “Yn unol ag Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb AEA,”; a
(ii)
yn is-baragraff (a), yn lle “cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb AEA” rhodder “mae’r Wladwriaeth AEE wedi eu dynodi yn awdurdodau i ymgynghori â hwy ynghylch y prosiect”;ac
(c)
ym mharagraff (5), hepgorer “Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”.
(7)
Yn rheoliad 14—
(a)
yn y pennawd ac ym mharagraffau (1) a (3), hepgorer “arall”;
(b)
ym mharagraff (1), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Gyfarwyddeb AEA”; ac
(c)
ym mharagraff (2), hepgorer “Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA,”.
(8)
Yn rheoliad 15(2)(d), hepgorer “arall”.
(9)
Yn rheoliad 16—
(a)
ym mharagraff (6)(b), yn lle “y Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “Gweinidogion Cymru”; a
(b)
“(6A)
Cyn penderfynu pa un a yw’r rhesymau yn rhesymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
ymgynghori â—
(i)
y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur;
(ii)
yr Ysgrifennydd Gwladol a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill;
(iii)
unrhyw berson arall y maent yn ystyried ei fod yn briodol; a
(b)
rhoi sylw i’r buddiant cenedlaethol.”
(10)
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
(11)
Yn Atodlen 3—
(a)
ym mharagraff 4(1)—
(i)
ym mharagraff (b)—
(aa)
yn lle “a ddiogelir gan y” rhodder “a ddiogelir o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi’r”; a
(bb)
ar ôl “Gyfarwyddeb Adar” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”; a
(ii)
“Dylai’r disgrifiad hwn gymryd i ystyriaeth yr amcanion diogelu’r amgylchedd a bennwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel yr oeddent yn union cyn F1diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gan gynnwys yn enwedig y rheini a bennwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar) neu ar lefel genedlaethol.”; a
(b)
ym mharagraff 8—
(i)
yn lle “deddfwriaeth yr UE megis Cyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir megis unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”;
(ii)
yn lle “yn unol â deddfwriaeth genedlaethol”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol arall”; a
(iii)
ar ôl “bodlonir gofynion” mewnosoder “unrhyw gyfraith a weithredodd”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20176.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “deddfwriaeth yr Undeb”.
(3)
Yn rheoliad 4(2)(b)—
(a)
yn lle “a warchodir o dan Gyfarwyddeb” rhodder “a warchodir o dan ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE a wnaeth drosi Cyfarwyddeb”; a
(b)
ar y diwedd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(4)
Yn rheoliad 5—
(a)
ym mharagraff (4)(a), yn lle “yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) pan” rhodder “o dan amgylchiadau eithriadol, heb leihau effaith rheoliadau 56 a 57 a phan”;
(b)
hepgorer paragraff (7); ac
(c)
ym mharagraffau (8)(b) a (13)(b)(ii), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.
(5)
Yn rheoliad 6(4), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.
(6)
Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “ddeddfwriaeth yr Undeb” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.
(7)
Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb)” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.
(8)
Yn rheoliad 31(3), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith yr UE a ddargedwir (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)”.
(9)
Yn rheoliad 43, yn lle “â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb” rhodder “ag unrhyw gyfraith a weithredodd y Gyfarwyddeb a chydag amcanion y Gyfarwyddeb”.
(10)
Yn rheoliad 54(a), hepgorer “arall”.
(11)
Yn rheoliad 56—
(a)
yn y pennawd ac ym mharagraffau (1)(a), (b) a (2)(a), hepgorer “arall”, ym mhob lle y mae’n digwydd; a
(b)
ym mharagraff (5)—
(i)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”; a
(ii)
yn is-baragraff (b), hepgorer “arall”.
(12)
Yn rheoliad 57—
(a)
yn y pennawd, hepgorer “arall”;
(b)
ym mharagraff (1)—
(i)
hepgorer “arall”, yn y ddau le y mae’n digwydd;
(ii)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(1) neu (2) o’r Gyfarwyddeb,”;
(iii)
hepgorer “, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb”; a
(iv)
yn is-baragraff (b), hepgorer “yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb”; ac
(c)
ym mharagraff (2)—
(i)
yn is-baragraff (b), yn lle “awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol” rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”; a
(ii)
yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “awdurdod cymwys” hyd at y diwedd rhodder “awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb”.
(13)
Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 21 a 22, yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.
(14)
Yn Atodlen 2, yn y tabl ym mharagraff 2, yn eitem 3(j), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb” rhodder “yn unol â Phennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Ynni 2008 ac unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”.
(15)
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2(c)(vi), yn lle “yn neddfwriaeth yr Undeb” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
(16)
Yn Atodlen 4—
(a)
ym mharagraff 5, yn lle’r geiriau o “ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu lefel yr Aelod Wladwriaeth” hyd at y diwedd rhodder “ar lefel yr Undeb Ewropeaidd fel yr oeddent yn union cyn F2diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gan gynnwys yn benodol y rheini a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC a Chyfarwyddeb 2009/147/EC) neu ar lefel genedlaethol,”; a
(b)
ym mharagraff 8—
(i)
yn lle “deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd megis Cyfarwyddeb” rhodder “chyfraith yr UE a ddargedwir megis unrhyw gyfraith a weithredodd Gyfarwyddeb”; a
(ii)
yn lle “gofynion y” rhodder “gofynion unrhyw gyfraith a weithredodd y”.
(17)
Yn Atodlen 5, ym mharagraff 17(a), hepgorer “arall”.
(18)
Yn Atodlen 6, ym mharagraff 20(b), hepgorer “arall”.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a chan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16).
Gwneir rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2), 3(4)(a)(iii), 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), (4)(b) a (12)(c) o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Mae rheoliadau 4(5)(b)(iv), 4(5)(c), 5(2)(c), (4)(b) a (12)(c) yn gwneud mân ddiwygiadau. Mae rheoliadau 2(8)(a)(i), 3(2) a 3(4)(a)(iii) yn diweddaru cyfeiriadau sydd wedi dyddio.
Mae’r rheoliadau sy’n weddill yn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i asesiadau amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni, ac i’r asesiad effaith amgylcheddol o ran materion cynllunio gwlad a thref ac amaethyddiaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd ni ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat neu wirfoddol, neu ni ragwelir unrhyw effaith sylweddol ar y sectorau hynny.