2019 Rhif 245 (Cy. 60)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Coming into force in accordance with regulation 1(2) and (3)

Bodlonwyd gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref3 ac mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â chynnal asesiad o effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd4; ac mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â defnyddio tir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys5.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.