2019 Rhif 234 (Cy. 53)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66, 69 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2019.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
a
yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£80” rhodder “£90”;
b
yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf perthnasol), ym mharagraff (2)(a), yn lle “£40,000” rhodder “£50,000”;
c
yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£28.50” rhodder “£29.50”;
d
yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£80” rhodder “£90”; ac
e
yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£28.50” rhodder “£29.50”.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20153
Yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20153, ar ôl paragraff 34 mewnosoder—
35
Unrhyw daliad a fyddai’n cael ei ddiystyru o dan baragraff 73 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm4 (taliadau sy’n ymwneud ag anabledd a achoswyd gan Thalidomid).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)