2019 Rhif 233 (Cy. 52)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 10(4), 11(3)(a)(iii) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 20172;

    ystyr “y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol” (“the Annual Returns Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20173.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol2

Maeʼr Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

Gwybodaeth arall3

Yn rheoliad 6, ar ôl “gwasanaeth cymorth cartref” mewnosoder “, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli”.

Amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf4

Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf9A

1

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2020.

2

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2021.

3

Os yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaethau a restrir ym mharagraffau (1) a (2), nid oes angen i ddatganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (2) tan 2021.

Yr Atodlen5

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5—

a

yn is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;

b

ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder y canlynol—

ond nid yw is-baragraffau (d), (e), (h) ac (i) yn gymwys os nad yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru ond i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Cofrestru6

Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 i 11.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan ymgeisydd7

Yn rheoliad 3(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth i amrywio cofrestriad – adran 11(1)(a)(i) a (ii)

8

Yn rheoliad 6(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.

9

Yn rheoliad 7(c), yn lle “o fan” rhodder “mewn perthynas â man”.

Atodlen 1 –yr wybodaeth sy’n ofynnolam y gwasanaeth sydd i’w ddarparu10

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 31 mewnosoder—

31A

Yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.

Atodlen 2 – yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben11

Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

ea

yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli—

i

enw’r gwasanaeth;

ii

yr ardal y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi;

iii

cyfeiriadau’r swyddfa neu’r swyddfeydd y darperir y gwasanaeth ohoni neu ohonynt;

iv

cyfeiriadau unrhyw swyddfa arall neu unrhyw swyddfeydd eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth;

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Cofrestru”).

Mae rheoliad 6 (gwybodaeth arall) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi ei ddiwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, fel y’i pennir yn yr Atodlen, fel rhan o’u datganiad blynyddol.

Mae rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf) wedi ei fewnosod i bennu’r flwyddyn y mae’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol i’w chyflwyno gan briod ddarparwyr gwasanaethau.

Mae paragraff 5 o’r Atodlen (gwybodaeth am staffio) wedi ei ddiwygio i wahaniaethu rhwng categorïau’r swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag y mae’n ofynnol i briod ddarparwyr gwasanaethau eu cynnwys yn y datganiad blynyddol.

Mae Atodlen 1 (yr wybodaeth sy’n ofynnol am y gwasanaeth sydd i’w ddarparu) o’r Rheoliadau Cofrestru wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Mae Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben) wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.