2019 Rhif 187 (Cy. 47)
Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 20123;
mae i “cyfnod asesu” yr ystyr a roddir i “assessment period” gan reoliad 21 o Reoliadau 2013;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
mae i “hunangyflogaeth elwaidd” yr ystyr a roddir i “gainful self-employment” gan reoliad 64 o Reoliadau 2013; ac
ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Cynhwysol 20134.
Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol2
1
Yr amgylchiadau a ragnodir5 at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw—
a
bod rhiant C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a
b
bod gan riant C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.
2
Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw—
a
bod C, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, yn cael credyd cynhwysol, a
b
bod gan C, yn y cyfnod asesu perthnasol, incwm a enillir nad yw’n fwy na’r swm cymwysadwy.
3
At ddibenion paragraffau (1) a (2)—
a
mae’r diffiniad o “earned income” (“incwm a enillir”) o dan reoliad 52 o Reoliadau 20136 yn gymwys yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);
b
pan fo hawlydd, mewn unrhyw gyfnod asesu, mewn hunangyflogaeth elwaidd, nid yw rheoliad 627 o Reoliadau 2013 yn gymwys at ddibenion cyfrifo incwm a enillir person o dan reoliad 52(b) o’r Rheoliadau hynny;
c
y cyfnod asesu perthnasol a’r swm cymwysadwy yw’r rhai y cyfeirir atynt yn y paragraffau a ganlyn fel y rhai sy’n gymwysadwy—
i
ac eithrio pan fo paragraffau (ii) neu (iii) yn gymwys, pan fo gan y rhiant incwm a enillir nad oedd yn fwy na £616.67 yn y cyfnod asesu credyd cynhwysol yn union cyn dyddiad y cais am bryd ysgol am ddim (cyfnod 1)—
aa
y cyfnod asesu perthnasol yw cyfnod 1; a
bb
y swm cymwysadwy yw £616.67;
ii
mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (i) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 2) yn union cyn cyfnod 1 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—
aa
y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1 a chyfnod 2; a
bb
y swm cymwysadwy yw £1,233.34;
iii
mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo paragraff (ii) yn gymwys oherwydd yr eir yn fwy na’r swm cymwysadwy y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw a bod cyfnod asesu credyd cynhwysol (cyfnod 3) yn union cyn cyfnod 2 y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—
aa
y cyfnod asesu perthnasol yw swm cyfnod 1, cyfnod 2 a chyfnod 3; a
bb
y swm cymwysadwy yw £1,850;
d
pan fo C neu, yn ôl y digwydd, riant C—
i
yn aelod o gwpl sydd wedi gwneud hawliad ar y cyd am gredyd cynhwysol ac sydd â hawlogaeth i gredyd cynhwysol; neu
ii
yn aelod o gwpl ond sydd wedi hawlio credyd cynhwysol, a sydd â hawlogaeth iddo, fel person sengl,
mae cyfeiriadau at symiau cymwysadwy ym mharagraffau (i) i (iii) o is-baragraff (c) i’w darllen fel cyfeiriadau at incwm cyfunol y cwpl.
Darpariaethau darfodol3
1
O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) i (4), mae cymhwystra C i gael cinio ysgol am ddim yn peidio ar y diwrnod peidio.
2
O ran C—
a
pan na fo’n dod yn gymwys, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996, ond
b
ei fod yn gymwys ar 31 Mawrth 2019, neu yn dod yn gymwys ar ôl y dyddiad hwnnw, i gael cinio o’r fath yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.
3
Pan oedd C yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar 31 Mawrth 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio.
4
Pan fo C yn dod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn unol â pharagraff (a)(ai) neu (b)(ai) o is-adran (4) o adran 512ZB o Ddeddf 1996 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 pa un a yw’r darpariaethau hynny wedi hynny yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag C ai peidio ac ni waeth pa un a oedd C yn gymwys felly cyn hynny yn unol â pharagraffau (a)(i) i (iia), (aa), (b)(i) i (iia) neu (c)(ii) o’r is-adran honno.
5
Y diwrnod peidio yw’r diweddaraf o—
a
31 Rhagfyr 2023; a
b
y diwrnod y mae—
i
C yn cwblhau addysg gynradd fel y diffinnir “primary education” yn adran 2 o Ddeddf 1996 (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023);
ii
C yn cwblhau addysg uwchradd fel y diffinnir “secondary education” yn yr adran honno (os oedd C ar y cam addysg hwnnw ar 31 Rhagfyr 2023).
Dirymu4
Mae Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 20138 wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)