NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012, a gymeradwyodd y mathau o drapiau sbring i’w defnyddio yng Nghymru.

Mae erthygl 2 yn pennu’r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng Ngholofn 1 o’r Atodlen ac eraill sy’n gyfwerth ym mhob modd perthnasol i’r rheini a restrir. Pennir yr amodau sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng Ngholofn 2 o’r Atodlen.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn hwn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 9 Medi 2015 sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau ar wasanaethau’r Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.