Search Legislation

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 18 (Cy. 7)

Anifeiliaid, Cymru

Atal Creulondeb

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019

Gwnaed

8 Ionawr 2019

Yn dod i rym

1 Chwefror 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954(1), a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2019.

Cymeradwyo trapiau sbring

2.—(1At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae’r trapiau sbring a ganlyn wedi eu cymeradwyo—

(a)trap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir mewn cofnod yng Ngholofn 1 o’r Atodlen; a

(b)trap sbring sy’n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir mewn cofnod yng Ngholofn 1 o’r Atodlen.

(2Mae’r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amodau hyn—

(a)rhaid defnyddio’r trap yn unol â’r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd; a

(b)i’r graddau sy’n ymarferol heb gyfaddawdu’n afresymol ei ddefnydd i ladd neu ddal rhywogaethau a dargedwyd, rhaid defnyddio’r trap mewn modd sy’n lleihau’r tebygolrwydd o ladd, dal neu anafu rhywogaethau nas targedwyd;

ac i unrhyw amodau pellach (os o gwbl) o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio’r trap sbring mewn perthynas â hwy, a’r amgylchiadau y caniateir defnyddio’r trap sbring oddi tanynt, fel a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (neu, yn achos trap a gymeradwyir o dan baragraff (1)(b), fel a bennir mewn perthynas â’r trap y mae’n gyfwerth iddo at ddibenion y paragraff hwnnw).

(3At ddibenion paragraff (1)(b), mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw’n cyfateb i’r trap sbring a bennir o ran ei adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy’n berthnasol i’w effaith neu i’w fodd o weithredu fel trap.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012(3) wedi ei ddirymu.

Leslie Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Ionawr 2019

Erthygl 2

YR ATODLEN

Colofn 1

Y math o drap a’i wneuthuriad

Colofn 2

Amodau

Aldrich Spring Activated Animal Snare a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Mr D. Schimetz, P.O. Box 158, Sekiu, Washington 98381, UDA.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben dal mamaliaid mawr, daearol o urdd y cigyswyr, megis bleiddiaid.

BMI Magnum 55

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, llygod a fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4)).

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

BMI Magnum 110

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

BMI Magnum 116

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

DOC 150

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.

Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

DOC 200

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.

Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

DOC 250

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.

Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Duke 116

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Duke Company, 508 E. Brame Avenue, West Point, MS 39773, UDA.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial sy’n addas at y diben.

Fenn Rabbit Trap Mark I

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire).

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd cwningod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Fenn Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire).

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire).

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Fuller Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwich, Sussex.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.

Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.

Goodnature A18 Grey Squirrel Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd a llygod mawr.

Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.

Goodnature A18 Mink Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd mincod.

Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.

Goodnature A24 Pro

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a llygod.

Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.

Goodnature A24 Rat and Stoat Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, llygod mawr, gwencïod a llygod.

Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.

Kania Trap 2000

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Kania Industries Inc., 63 Centennial Road, British Colombia, V9R 6N6, Canada.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis)(5), llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.

Kania Trap 2500

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Kania Industries Inc., 63 Centennial Road, British Colombia, V9R 6N6, Canada.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

KORO Large Rodent Double Coil Spring Snap Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Koro Traps, Box 5 Grp.22 RR2, Dugald, Manitoba, R0E 0K0, Canada.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd a llygod mawr.

Rhaid gosod y trap fel bod modd i anifeiliaid fynd i mewn iddo o’r tu blaen yn unig, a’i osod mewn twnnel dall artiffisial sy’n addas at y diben. (Y blaen yw’r ochr lle gellir darllen y llythrennau KORO gyferbyn â hwy y tu uchaf i fyny.)

KORO Rodent Snap Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Koro Traps, Box 5 Grp.22 RR2, Dugald, Manitoba, R0E 0K0, Canada.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a gwencïod.

Rhaid gosod y trap fel bod modd i anifeiliaid fynd i mewn iddo o’r tu blaen yn unig, a’i osod mewn twnnel dall artiffisial sy’n addas at y diben. (Y blaen yw’r ochr lle gellir darllen y llythrennau KORO gyferbyn â hwy y tu uchaf i fyny.)

Nooski Rat Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Nooski Trap System, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a’r twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.

Nooski Mouse Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Nooski Trap Systems, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod.

Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a’r twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.

Procull Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Elgeeco, 108 Downlands Way, South Wonston, Winchester, Hampshire, SO21 3HS.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.

Skinns Superior Squirrel Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, E. Skinns Ltd., Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Solway Spring Trap Mk4

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Solway Feeders Ltd., Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Solway Spring Trap Mk6

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Solway Feeders Ltd., Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Springer No. 4 Multi-purpose (Heavy Duty)

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AB County Products Ltd., Unit 3, Wellington Works, 15 The High Street, Redditch, Worcestershire.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Springer No. 6 Multi-purpose

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AB County Products Ltd., Unit 3, Wellington Works, 15 The High Street, Redditch, Worcestershire.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Tully Trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, KM Pressings Ltd, 37B Copenhagen Road, Sutton Fields Industrial Estate, Hull, East Yorkshire, HU7 0XQ.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, gwencïod a llygod mawr.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

VS squirrel trap

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Pescon Services, 394 York Road, Stevenage, Hertfordshire, SH1 4EN.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.

Rhaid gosod y trap yn y twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.

WCS Collarum Stainless UK Fox Model a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Wildlife Control Supplies, LLC, P.O. Box 538, East Granby, CT 06026, UDA.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben dal llwynogod.

WCS Tube Trap International

a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Wildlife Control Supplies, LLC, P.O. Box 538, East Granby, CT 06026, UDA.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, gwencïod, llygod mawr a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.

Rhaid gosod y trap yn y twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchwr i’w ddefnyddio yn y DU.

WiseTrap 110 (eitem rhif 100110 neu 110110), WiseTrap 160 (eitem rhif 100160, 110160, 101160 neu 111160), WiseTrap 200 (eitem rhif 100200, 110200, 101200 neu 111200) a WiseTrap 250 (eitem rhif 101250 neu 111250)

a weithgynhyrchir gan WiseCon A/S, Skovgaardsvej 25, DK-3200 Helsinge, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Rhaid gosod y trap mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012, a gymeradwyodd y mathau o drapiau sbring i’w defnyddio yng Nghymru.

Mae erthygl 2 yn pennu’r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng Ngholofn 1 o’r Atodlen ac eraill sy’n gyfwerth ym mhob modd perthnasol i’r rheini a restrir. Pennir yr amodau sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng Ngholofn 2 o’r Atodlen.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn hwn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 9 Medi 2015 sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau ar wasanaethau’r Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1954 p. 68. Diwygiwyd adran 8(7) gan adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1973 (p. 39) a Rhan 8 o Atodlen 1 iddi.

(2)

Ailenwyd y Gweinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn “the Minister for Agriculture, Fisheries and Food” (“y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd”) pan drosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Bwyd i’r Gweinidog hwnnw gan O.S. 1955/554. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Gweler, er hynny adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, pa un a yw’r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae’n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o’r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: