Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

RHAN 3Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn darparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth

11.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gytuno i leoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai bod y darparwr wedi penderfynu bod lleoliad addas a all ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth a galluogi’r plentyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)cynllun gofal a chymorth y plentyn,

(b)unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(c)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn,

(d)unrhyw risgiau i lesiant y plentyn,

(e)unrhyw risgiau i lesiant unrhyw blentyn arall y gall y lleoliad sydd i’w wneud effeithio arno,

(f)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn, ynghyd â’i gyfeiriadedd rhywiol a’i hunaniaeth o ran rhywedd,

(g)unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth y plentyn gael eu diwallu,

(h)polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys—

(a)y plentyn, pan fo’n ymarferol,

(b)rhieni’r plentyn, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)yr awdurdod lleoli.