NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac yn nodi’r gofynion rheoleiddiol a’r ddarpariaeth gysylltiedig ar gyfer darparwyr gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig a’r personau hynny sydd wedi eu dynodi’n “unigolion cyfrifol” ar gyfer gwasanaethau o’r fath.

Mae’r Rheoliadau wedi eu rhannu’n 18 o Rannau sy’n ymdrin ag agweddau gwahanol ar y gofynion. Mae rheoliad 2 yn Rhan 1 yn diffinio’r mathau o wasanaeth eirioli sydd i’w rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Mae Rhan 2 yn nodi’r gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, y trefniadau ar gyfer monitro a gwella, y cymorth sydd i’w ddarparu i’r unigolyn cyfrifol, y camau sydd i’w cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae rheoliad 11 yn Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr benderfynu bod eu gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn cyn cymryd unigolyn ymlaen.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau lunio cynllun a’i gadw o dan adolygiad ar gyfer y cyfnod y maent yn darparu gwasanaeth i unigolyn.

Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi canllaw ysgrifenedig i bob person sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac i awdurdodau lleol sy’n comisiynu gwasanaethau. Mae Rhan 6 yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran ansawdd y gwasanaethau y mae rhaid iddynt eu darparu.

Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod yr unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflogi staff sy’n addas ac yn rhagnodi’r hyn a olygir wrth addasrwydd at y dibenion hyn.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol bod gan ddarparwyr fangreoedd sy’n addas i’r diben a bod cyfleusterau a chyfarpar a ddefnyddir yn cyrraedd yr un safon. Mae Rhan 10 yn gosod nifer o ofynion eraill bod darparwyr gwasanaethau yn cynnal y cofnodion rhagnodedig, yn hysbysu’r rheoleiddiwr am ddigwyddiadau rhagnodedig, yn rheoli achosion o wrthdaro buddiannau, a bod ganddynt weithdrefnau cwyno a pholisi chwythu’r chwiban.

Mae Rhannau 11 i 15 yn gosod y gofynion sy’n gymwys i unigolion cyfrifol. Mae’r rhain yn cynnwys y ddyletswydd i benodi rheolwr ar gyfer y gwasanaeth, i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, i sicrhau cydymffurfedd â gofynion rheoleiddiol, ac i fonitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

Mae Rhan 16 yn nodi’r rheoliadau hynny y mae trosedd wedi ei chyflawni os ydynt wedi eu torri ac sydd felly yn creu atebolrwydd troseddol ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol.

Mae Rhan 17 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person a benodir (yn achos ansolfedd) neu ar y cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn). Mae rheoliad 58 yn galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth ac mae’r Ddeddf wedi ei haddasu fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru ac y gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man lle y darperir y gwasanaeth.

Mae Rhan 18 (rheoliad 59) yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion cymhwystra adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.