RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu
Dehongli Rhan 726
Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol.
mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—
- a
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
- b
bod person yn cael ei dwyllo;
- c
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
- d
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
- a
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
ystyr “niwed” (“harm”) yw camdriniaeth neu amhariad ar—
- a
iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu
- b
datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol;
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu atal anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 200513.
- a