Cytundeb lleoli unigolyn
12.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth leoli unigolyn gyda gofalwr lleoli oedolion oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi ymrwymo i gytundeb lleoli unigolyn â’r gofalwr lleoli oedolion.
(2) Rhaid bod cytundeb lleoli unigolyn ar gyfer pob unigolyn sydd i’w leoli gyda’r gofalwr lleoli oedolion.
(3) Pryd bynnag y bo’n ymarferol, rhaid i’r unigolyn fod yn barti i’r cytundeb, a rhaid rhoi copi iddo o’r cytundeb wedi ei lofnodi sy’n ymwneud â’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys mewn cytundeb lleoli unigolyn wybodaeth sy’n galluogi pob parti sy’n ymwneud â’r cytundeb i ddeall ei rolau a’i gyfrifoldebau.
(5) Rhaid i’r cytundeb lleoli unigolyn hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)pryd bynnag y bo’n ymarferol, enw unigolyn ac eithrio aelod o staff y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r gofalwr lleoli oedolion, sydd, gyda chydsyniad datganedig neu oblygedig yr unigolyn, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr unigolyn;
(b)yr ystafell sydd i’w meddiannu gan yr unigolyn yng nghartref y gofalwr lleoli oedolion;
(c)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r lleoliad a chan bwy y maent yn daladwy.
(6) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth adolygu’r cytundeb lleoli unigolyn—
(a)o leiaf unwaith o fewn blwyddyn gyntaf y lleoliad;
(b)pryd bynnag y gwneir newid sylweddol i’r cynllun personol;
(c)ar gais rhesymol yr unigolyn, unrhyw gynrychiolydd neu’r gofalwr lleoli oedolion;
(d)beth bynnag, o fewn blwyddyn i’r adolygiad diwethaf.
(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn mewn unrhyw achos pan fo’r gofalwr lleoli oedolion yn peidio â bod yn addas i fod yn ofalwr lleoli oedolion yn unol â rheoliad 36.
(9) Heb ragfarnu paragraff (8), rhaid i’r darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb gofalwr mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r darparwr gwasanaeth nad yw neu na fydd y gofalwr lleoli oedolion yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli unigolyn.
(10) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth derfynu cytundeb lleoli unigolyn heb ymgynghori’n gyntaf â’r unigolyn, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol ymgynghori ag ef.