2019 Rhif 163 (Cy. 40)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20161.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.