Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

2.—(1Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2—

(a)yn y man priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomatig sy’n darparu mynediad hunanwasanaeth i ystod o wasanaethau bancio;;

(b)yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)a ddefnyddir ar gyfer peiriant arian awtomatig yn unig;.