Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3).
3
Nid yw rheoliad 2(7) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
4
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Ionawr 2020.
5
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” yw Rheoliadau Adeiladu 20104.