NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”).

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod diffiniadau o “external wall” a “specified attachment” yn rheoliad 2 (dehongli).

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4(2) (gofynion sy’n ymwneud â gwaith adeiladu) i egluro’r modd y mae’n gymwys i ofynion rheoliad 7 (fel y’i diwygiwyd).

Mae rheoliad 2(4) a (5) yn diwygio rheoliad 5 (ystyr newid defnydd sylweddol) a 6 (gofynion sy’n ymwneud â newid defnydd sylweddol) yn y drefn honno i ddarparu ar gyfer cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer y deunyddiau sydd wedi eu cynnwys mewn wal allanol neu atodyn penodedig i adeilad sydd, ar ôl newid defnydd, yn cael ei ddefnyddio fel adeilad a ddisgrifir yn y rheoliad 7(4) newydd. Rhaid i’r deunyddiau hynny sicrhau Dosbarthiad Ewropeaidd A2-s1, d0 neu A1.

Mae rheoliad 2(6) yn diwygio rheoliad 7 i ddarparu, yn ddarostyngedig i’r eitemau esempt yn y rheoliad 7(3) newydd, mai dim ond deunyddiau sy’n sicrhau Dosbarthiad Ewropeaidd A2-s1, d0 neu A1 a gaiff ddod yn rhan o wal allanol neu atodyn penodedig i adeilad perthnasol. Mae’r rheoliad 7(4) newydd yn darparu’r diffiniad o “relevant building”.

Mae rheoliad 2(7) yn gwneud diwygiadau i reoliad 37A i gywiro mân wallau.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol fel na fydd y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys pan fo hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi ei roi i awdurdod lleol, neu pan fo cynlluniau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, cyn 13 Ionawr 2020 a phan fo’r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau neu’n dechrau o fewn 8 wythnos i’r dyddiad hwnnw.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau ar ffurf ddrafft (Hysbysiad Rhif 2019/0384/UK ar 30 Gorffennaf 2019) yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1), sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoleiddio.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae ar gael ar y wefan ar www.llyw.cymru.

Bydd copïau o’r Safon Brydeinig y mae’r Rheoliadau hyn yn cyfeirio ati ar gael i edrych arnynt yn rhad ac am ddim drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Rheoliadau Adeiladu yn Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad uchod.