2019 Rhif 1499 (Cy. 275)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 19841, a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 19843, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.