xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1498 (Cy. 274)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Cadwraeth Pysgod Môr

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

10 Rhagfyr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym

15 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1(3) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 15 Ionawr 2020.

Diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019

2.—(1Mae Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 4, yn y testun Saesneg, yn lle “purpose” rhodder “purposes”.

(3Yn lle erthygl 5 rhodder—

Gwahardd cludo cregyn moch penodedig

5.(1) At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), ni chaniateir i gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gael eu cludo gan gwch pysgota Prydeinig sydd wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod taith bysgota gyfredol y cwch hwnnw.

(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “taith bysgota gyfredol” yw’r cyfnod o’r adeg y mae’r cwch pysgota yn gadael porthladd hyd at yr adeg y mae’n dychwelyd i borthladd.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1042 (Cy. 184)) (“y Prif Orchymyn”).

Mae erthygl 5 o’r Prif Orchymyn ar hyn o bryd yn gwahardd cludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gan gychod pysgota Prydeinig ym mharth Cymru. Mae’r “maint lleiaf penodedig” ar gyfer cregyn moch wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 o’r Prif Orchymyn.

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn rhoi “purposes” yn lle “purpose” yn nhestun Saesneg erthygl 4 o’r Prif Orchymyn.

Mae erthygl 2(3) yn rhoi erthygl 5 newydd yn lle’r un sydd yn y Prif Orchymyn. Effaith yr amnewid hwn yw y caiff cwch pysgota Prydeinig gludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig ym mharth Cymru os nad yw wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod y daith bysgota benodol honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan adran 19(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29). Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (4) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”). Gweler adran 1(9) o Ddeddf 1967 am ddiffiniad o “appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan adran 194(1) a (5) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan adrannau 19(2)(d) a (3), a 45 a 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), a Rhan 2 o Atodlen 5 iddi ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran 1, a Rhan 4, o Atodlen 2 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1(3) a (6) i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)): gweler erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. I’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 1(3) a (6) o Ddeddf 1967 i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).