2019 Rhif 1498 (Cy. 274)

Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1(3) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19671, sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 15 Ionawr 2020.

Diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 20192

1

Mae Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 20193 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 4, yn y testun Saesneg, yn lle “purpose” rhodder “purposes”.

3

Yn lle erthygl 5 rhodder—

Gwahardd cludo cregyn moch penodedig5

1

At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), ni chaniateir i gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gael eu cludo gan gwch pysgota Prydeinig sydd wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod taith bysgota gyfredol y cwch hwnnw.

2

Yn yr erthygl hon, ystyr “taith bysgota gyfredol” yw’r cyfnod o’r adeg y mae’r cwch pysgota yn gadael porthladd hyd at yr adeg y mae’n dychwelyd i borthladd.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1042 (Cy. 184)) (“y Prif Orchymyn”).

Mae erthygl 5 o’r Prif Orchymyn ar hyn o bryd yn gwahardd cludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gan gychod pysgota Prydeinig ym mharth Cymru. Mae’r “maint lleiaf penodedig” ar gyfer cregyn moch wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 o’r Prif Orchymyn.

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn rhoi “purposes” yn lle “purpose” yn nhestun Saesneg erthygl 4 o’r Prif Orchymyn.

Mae erthygl 2(3) yn rhoi erthygl 5 newydd yn lle’r un sydd yn y Prif Orchymyn. Effaith yr amnewid hwn yw y caiff cwch pysgota Prydeinig gludo cregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig ym mharth Cymru os nad yw wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod y daith bysgota benodol honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.