(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”).
O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig ym mhob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae 2020 yn flwyddyn pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio.
Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r swm gwahanol a bennir felly fod yn is na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol yw 291.0.
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 yw 289.0.
Yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ni fydd y Gorchymyn ond yn dod i rym os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Llywodraeth Leol, yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.