Gorchymyn a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

2019 Rhif 1497 (Cy. 273)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru10 Rhagfyr 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy o ran Cymru2.