Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.