Gwybodaeth benodedigI13

1

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid i landlord (neu, os cyfarwyddir felly, ei asiant gosod eiddo) ei darparu i ddarpar ddeiliad contract3 cyn y telir blaendal cadw4 i landlord neu asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.

2

Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—

a

swm y blaendal cadw5,

b

cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,

c

pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,

d

pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,

e

hyd y contract,

f

dyddiad meddiannaeth arfaethedig,

g

swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,

h

cyfnod rhentu,

i

unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,

j

swm unrhyw flaendal sicrwydd,

k

a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,

l

gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, ac

m

gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.

3

Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.