Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 149 (Cy. 34)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Parafeddyg-Ragnodydd Annibynnol a Pharafeddyg-Ragnodydd Atodol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gwnaed

29 Ionawr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Ionawr 2019

Yn dod i rym

22 Chwefror 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 47, 80, 83, 121 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), ac adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008(2) a pharagraff 3 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(2)

2008 p. 27 Mae’r pwerau perthnasol o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedi eu rhoi i’r “relevant national authority” (“yr awdurdod cenedlaethol perthnasol”). Mae adran 77(3) o’r Ddeddf yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru. Y Rheoliadau cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y pwerau hyn oedd Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2880 (Cy. 238)).