http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/149/contents/made/welsh
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Parafeddyg-Ragnodydd Annibynnol a Pharafeddyg-Ragnodydd Atodol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2019-01-31
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 i estyn y diffiniad o ragnodydd i gynnwys parafeddygon-ragnodwyr annibynnol. Maent hefyd yn diwygio’r diffiniad o ragnodydd atodol yn y Rheoliadau hynny i gynnwys parafeddygon-ragnodwyr atodol.