NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 84, 87 and 97 o Ddeddf 2013. Maent yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol lunio cynllun deng mlynedd, y cyntaf i gael effaith o 1 Medi 2021, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion a ganlyn:

a

ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 3);

b

cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);

c

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 5);

d

cymeradwyo cynllun (rheoliad 6);

e

amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiad adolygu (rheoliad 7);

f

trefniadau ar gyfer diwygio’r cynllun (rheoliad 8);

g

y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9);

h

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun (rheoliad 10);

i

dull cyhoeddi cynllun (rheoliad 11);

j

dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 (rheoliad 12).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Lles Disgyblion, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.